Ymweliadau Ysgolion

Ymweliadau Ysgolion

Home » Dewch i CyDA » Grwpiau a Dysgu » Ymweliadau Ysgolion

 

Mae CyDA yn ganolfan eco fyd enwog sy’n ymchwilio i ffyrdd o fyw yn fwy gwyrdd, ac yn eu cefnogi.

Mae ein canolfan ymwelwyr 7 erw yn cynnig arddangosfeydd ymarferol am ynni adnewyddadwy, enghreifftiau eang o adeiladu amgylcheddol-gyfrifol a gerddi organig prydferth. Mae 17 erw arall yn estyn i fyny i’r bryniau o gwmpas y ganolfan ac mae golygfeydd trawiadol dros Fiosffer UNESCO Dyfi i’w gweld o Lwybr y Chwarel.

Rydym wedi bod yn croesawu grwpiau ysgol i’n canolfan ymwelwyr ers 50 mlynedd ac rydym yn ymfalchïo yn y ffordd rydym yn ennyn diddordeb pobl ifanc mewn pynciau megis newid hinsawdd a chynaladwyedd. Mae ein teithiau a’n gweithdai yn ddelfrydol ar gyfer ymweliad undydd ac mae ein llety ar y safle yn ganolbwynt ardderchog ar gyfer taith ysgol i’r ardal neu brofiad dysgu manylach dros nifer o ddiwrnodau yma yn CyDA.

Gweithdai a Hyfforddiant

Mae pob un o’n gweithdai’n ymdrin â chynaladwyedd ar draws ystod o bynciau cwricwlwm ac mae llawer yn cynnwys materion sy’n gysylltiedig â dinasyddiaeth fyd-eang. Gwneir cysylltiadau â phynciau eraill megis Gwyddoniaeth, Daearyddiaeth, Dylunio a Thechnoleg, ABCh a Dinasyddiaeth. Mae ein darpariaeth yn cynnwys cysylltiadau traws-gwricwlwm sy’n datblygu sgiliau allweddol mewn Llythrennedd a Mathemateg, gyda phwyslais arbennig ar ddatrys problemau mewn cyd-destun anghyfarwydd.

Cynigir gweithdai ar gyfer pob lefel, o’r Cyfnod Sylfaenol i lefel ôl-radd, gan gynnwys TGAU, lefel A a Bagloriaeth Cymru. Gellir hefyd addasu’r mwyafrif o’n gweithdai ar gyfer athrawon unigol neu grwpiau.

 

Ynni Adnewyddadwy

Ymchwilio i ynni adnewyddadwy, deall yr egwyddorion a darganfod pam ei fod yn bwysig. Ymchwilio i wahanol systemau generadu a sut i storio ynni. Edrych ar enghreifftiau cynnar o dyrbinau gwynt a dysgu mewn modd ymarferol am gynhyrchu trydan o ffynonellau adnewyddadwy. Dewch i brofi ein gweithdai a’n gweithgareddau pŵer gwynt neu ein taith dywysedig arbenigol am ynni adnewyddadwy.

Adeiladu Gwyrdd

Mae’r gweithdai’n edrych ar gysyniad defnyddio dulliau a deunyddiau adeiladu amgylcheddol-gyfrifol drwy adrodd stori, drama, ymchwilio a thrwy ganolbwyntio ar y deunyddiau eu hunain a’u heffaith ar yr amgylchedd naturiol. Bydd y disgyblion yn ystyried angen pobl am gysgod a diogelwch ac yn ymchwilio i ddulliau adeiladu cynaliadwy a gwyrdd fel dewis arall yn lle’r dulliau confensiynol.

Coedwigoedd a Bywyd Gwyllt

Lleolir CyDA ym Miosffer UNESCO Dyfi, ardal sy’n cael ei chydnabod drwy’r byd am ei bywyd gwyllt a’i thirluniau gwyddonol-bwysig. O fewn ein safle 24 erw, mae nifer o gynefinoedd unigryw sy’n cynnig adnodd ardderchog o ran dysgu y tu allan i’r dosbarth. Darganfyddwch y gweithdai a’r teithiau sydd ar gael, a dewch i archwilio cynefinoedd, rhywogaethau, a’r tymhorau.

Byw yn Wyrdd

Mae ein gweithdai a’n gweithgareddau byw yn ymchwilio i faterion yn ymwneud a byw yn gynaliadwy a cheir cyfle i ystyried y gwahanol atebion. Rydym yn edrych ar y rhwystrau o ran sicrhau allyriadau sero net a sut y gallwn ddefnyddio blwch syniadau i ysbrydoli, hysbysu a galluogi newidiadau yn y ffordd yr ydym yn byw.
Ystafell wely pâr yn adeilad WISE

Llety

Mae gan CyDA 24 ystafell wely en-suite yn adeilad WISE, cyfleuster eco arobryn a ddyluniwyd yn gelfydd.
Dysgu mwy

Arlwyo

Mae brecwast, cinio, cinio pecyn a phrydau nos ar gael yng Nghaffi CyDA - caffi bwyd cyflawn llysieuol poblogaidd a chyfforddus.
Dysgu mwy

Cysylltu â CyDA

Os ydych angen rhagor o wybodaeth neu gymorth, cysylltwch â ni a bydd aelod o’r tîm yn dod i gysylltiad â chi.