View of students walking in the hills above CAT visiitng a nearby wind turbine.

ASTUDIWCH YN CyDA

ARCHWILIO EIN CYRSIAU

Dewiswch rhwng ein cyrsiau ôl-raddedig amser llawn a rhan-amser, gan ddarganfod sut y gallwch chi feithrin y sgiliau y mae eu hangen arnoch er mwyn helpu i sicrhau byd mwy cynaliadwy.

Gwnewch gais cyn ein dyddiad cau ar gyfer  ceisiadau ar 10 Mehefin 2026. 

Graduate School open Day tour - in the polytunnel

Pam astudio gyda ni?

Cychwynnwch ar daith addysgol drawsnewidiol trwy astudio yn Ysgol Graddedigion yr Amgylchedd CyDA, gan ddatgloi byd o gyfleoedd.

Bydd astudio ar un o’n cyrsiau ôl-raddedig* yn eich helpu i feithrin gwybodaeth, ysbrydoliaeth a rhwydweithiau er mwyn gwneud gwahaniaeth go iawn yn eich maes wrth i chi archwilio dull gweithredu integredig ar gyfer cynaliadwyedd sy’n ystyried y darlun mawr.

  • Cael budd gan 50 mlynedd o brofiad CyDA ym maes cynaliadwyedd.
  • Manteisio ar y dewisiadau astudio hyblyg sydd ar gael, gan ganiatáu i chi fwynhau ymweliadau astudio trochol i CyDA neu astudio o bell yn llwyr. Gallwch ddewis astudio eich cwrs dan drefniant rhan-amser neu amser llawn.
  • Cyfle i ymestyn eich rhwydweithiau trwy gyfrwng cymuned myfyrwyr CyDA a chyfarfod cyd fyfyrwyr sy’n teimlo’n angerddol ynghylch sicrhau newid.
  • Dysgu gan ddarlithwyr arbenigol a siaradwyr gwadd blaenllaw o’r diwydiant, a meithrin profiad a sgiliau ymarferol gyda dull gweithredu ymarferol dysgu trwy wneud unigryw CyDA.
  • Sicrhau cymhwyster ar gwrs a gaiff ei gydnabod ar draws y byd ac a ddarparir gan CyDA a’i ddilysu gan ein prifysgolion partner.
  • Ymuno â rhwydwaith graddedigion sy’n tyfu a defnyddio eich sgiliau a’ch gwybodaeth i wneud gwahaniaeth go iawn trwy gyfrwng amrywiaeth o lwybrau gyrfa.

Gweithredwch nawr ar gyfer dyfodol cynaliadwy – ymunwch â ni yn ystod diwrnod agored neu ewch ati i lenwi eich cais heddiw.

*Ar hyn o bryd dim ond trwy’r Saesneg y cynigir ein cyrsiau ol-raddedig gan mai Prifysgol Dwyrain Llundain (UEL) a Phrifysgol John Moores Lerpwl (LJMU) sy’n achredu ein graddau..

Student on CAT's sustainable food course taking part in a soil survey

Prosbectws

Dysgwch fwy am astudio ar un o’n cyrsiau ôl-raddedig drwy ddarllen ein Prosbectws Ôl-raddedig.

Dechreuwch eich proses o ymgeisio. Gwnewch gais cyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ar 10 Mehefin 2026.