BETH RYDYM YN EI WNEUD
ATEBION YMARFEROL I’R NEWIDIADAU I’N PLANED
Rhaid i ddynoliaeth sicrhau allyriadau nwyon tŷ gwydr sero net erbyn canol y ganrif er mwyn osgoi newid hinsawdd trychinebus. Y cynharaf y gwneir hyn, y mwyaf ein siawns o gadw’r cynnydd mewn tymheredd byd-eang yn agos i 1.5°C, gan helpu i atal newid hinsawdd direolaeth.
Rhaid i bob allyriad a all fynd i sero, fynd i sero – cyn gynted â phosib. Nid o drydan yn unig, ond hefyd gwresogi, trafnidiaeth, diwydiant a defnydd tir.
Mae gennym yr offer i wneud hyn. Mae ymchwil Prydain Di-garbon CyDA yn dangos yn glir bod gennym eisoes y technolegau angenrheidiol i gyrraedd allyriadau carbon sero erbyn 2050 – neu hyd yn oed cyn hynny.
“Mae pob tamaid o wresogi ychwanegol yn gwneud gwahaniaeth” Hans-Otto Pörtner, Panel Rhynglywodraethol Newid Hinsawdd (IPCC)
Mae angen gweithredu ar bob lefel:
unigolion, cymunedau, busnesau a llywodraethau. Rydym angen pobl â’r sgiliau, y wybodaeth a’r ddealltwriaeth i wneud i newid ddigwydd.
A rhaid gweithredu nawr!
YSBRYDOLI, HYSBYSU, GALLUOGI
Cenhadaeth CyDA yw ysbrydoli, hysbysu a galluogi pobl i ganfod atebion ymarferol ar gyfer cynaladwyedd
Mae CyDA yn elusen addysgol sydd wedi ymrwymo i ymchwilio i atebion cadarnhaol i newid hinsawdd, a’u rhannu.
Rydym yn siarad â’r llywodraeth ac ymgyrchwyr am bolisïau a fyddai’n helpu i greu Prydain Di-garbon. Rydym yn hyfforddi myfyrwyr ymhob agwedd o gynaliadwyedd ac yn helpu plant ysgol i ddeall pwysigrwydd gweithredu yn erbyn newid hinsawdd. Rydym hefyd yn cynnig cyngor i ddeiliaid tai am yr hyn y gallant ei wneud yn eu cartrefi.
A wnewch chi helpu i greu newid?
“Mae’r penderfyniadau a wnawn heddiw yn hollbwysig o ran sicrhau byd diogel a chynaliadwy i bawb, heddiw ac yn y dyfodol.” Debra Roberts, IPCC.
Rydym angen pobl fel chi sy’n poeni am y byd a phawb sy’n ei rannu i’n helpu i wneud i newid ddigwydd.
A wnewch chi ymuno â ni heddiw a dod yn rhan o’r newid?
- Ymwelwch â ni i ddysgu am atebion a allai weithio i chi yn eich cartref eich hun
- Dysgwch sgiliau newydd ar un o’n cyrsiau byr ar ynni adnewyddadwy, adeiladu gwyrdd, tyfu cynaliadwy a mwy
- Astudiwch gyda ni i ennill gradd Meistr amgylcheddol.
- Cefnogwch ein gwaith drwy ddod yn aelod neu wneud cyfraniad heddiw

Hanes
Darganfod sut mae CyDA wedi annog newid mewn mwy na 50 mlynedd o ysbrydoli, hysbysu a galluogi pobl i gyflawni atebion ymarferol ar gyfer cynaliadwyedd.

GWOBRWYON
CADW MEWN CYSYLLTIAD
Os hoffech weithio gyda CyDA i greu newid, neu os hoffech wybod mwy am yr hyn a wnawn, cysylltwch â ni.