
Andrew Pearman
Cadeirydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
Mae Andrew’n teimlo’n angerddol dros gefn gwlad, mae am wneud gwahaniaeth cadarnhaol o ran diogelu ein hamgylchedd ar gyfer y dyfodol ac mae ganddo gefndir eang yn y sectorau TG a Chyfleustodau.
Mae Andrew’n teimlo’n angerddol dros gefn gwlad, mae am wneud gwahaniaeth cadarnhaol o ran diogelu ein hamgylchedd ar gyfer y dyfodol ac mae ganddo gefndir eang yn y sectorau TG a Chyfleustodau.
Peiriannydd yw Andrew sy’n ymddiddori mewn harneisio technoleg i oresgyn heriau amgylcheddol. Mynychodd un o gyrsiau technoleg solar CyDA am y tro cyntaf bron 20 mlynedd yn ôl ac ymunodd â bwrdd yr ymddiriedolwyr ar ddechrau 2018.
Mae gan Roger brofiad helaeth yn rhedeg sefydliadau mawr ym maes rheolaeth amgylcheddol yn llwyddiannus dros Gymru gyfan. Yn fwyaf diweddar bu’n Brif Swyddog Gweithredol Cyngor Cefn Gwlad Cymru am 11 mlynedd.
Mae gan Kalyani ddiddordeb mawr mewn byw yn gynaliadwy ac ecoleg barchus, ac mae’n gerddwr bryniau brwdfrydig. Mae’n byw yng Ngogledd Cymru gyda’i gŵr a’u mab ifanc.
Mae Tony yn wyddonydd cymdeithasol sydd â chysylltiad deugain mlynedd â pholisïau, ymchwil a hyfforddiant datblygu cynaliadwy gyda sefydliadau yn y DU a Brasil a sefydliadau rhyngwladol.
Enillodd Sonya radd MSc mewn Ynni Adnewyddadwy yn CyDA yn 2018 ac mae hi bellach yn Bennaeth Ynni ym Mhartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig Stephens Scown ac yn un o ymddiriedolwyr CyDA.
Mae Kevin yn Gyfrifydd Siartredig sydd wedi ymddiddori ers amser maith mewn cynaliadwyedd ac mae ganddo Radd Meistr mewn Cynaliadwyedd a Rheoli’r Amgylchedd.
Gyda chefndir mewn macro-economeg, mae Theresa ar hyn o bryd yn arwain Hwb Hinsawdd Banc Lloegr.
Mae Eileen yn credu’n gryf yng ngallu a grym mudiadau cymdeithasol i greu newid. Cafodd ei hysbrydoli gyntaf i fod yn Wneuthurwr Newid yn CyDA yn 2001.
Mae Paul yn frwdfrydig dros yr amgylchedd, pêl-droed a’r theatr, ac mae ganddo dros 30 mlynedd o brofiad fel cyfrifydd siartredig. Yn fwyaf diweddar, treuliodd 18 mlynedd yn arbenigo mewn darparu cefnogaeth a chyngor i’r sector elusennol.
Fel pennaeth yr ysgol, mae Adrian yn treulio’r rhan fwyaf o’i amser yn sicrhau gweithrediad llyfn Ysgol y Graddedigion. Pan nad yw’n gwneud hynny, mae’n defnyddio’i gefndir mewn Cemeg i gefnogi gweithgareddau’n ymwneud â llygredd ar gyfer y cyrsiau meistri.
Mae gan John gariad mawr tuag at yr awyr agored a’r defnydd o dechnoleg i alluogi byw’n gynaliadwy. Cyn dod i CyDA, treuliodd John 27 mlynedd yn gweithio ym myd amgueddfeydd, lle treuliodd llawer o’i amser yn dod â safleoedd hanesyddol a thechnolegau’n fyw ar gyfer ymwelwyr.
Ymunodd Ed â CyDA yn dilyn 15 mlynedd yn datblygu profiadau ymwelwyr a chyfleoedd masnachol yn Llyn Brenig a Chwm Elan ar ran Dŵr Cymru. Ac yntau’n gyfrifol am reoli’r gwasanaethau arlwyo, mân-werthu a llety, mae Ed yn rhoi pwys mawr ar ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid ardderchog sy’n rhagori ar ddisgwyliadau ein hymwelwyr.
Gwneir ein gwaith yn bosib gyda chefnogaeth pobl fel chi. A wnewch chi ystyried rhodd neu aelodaeth, cyfraniad rheolaidd neu gymorth un tro.