Home » Dewch i CyDA » Llogi Lleoliad

Llogi Lleoliad

Mae Adeilad WISE yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen yn fan cyfarfod arobryn a chanddo rinweddau cynaliadwyedd rhagorol.

Wedi’i leoli ym Miosffer Dyfi UNESCO yng nghanolbarth Cymru, mae gan adeilad WISE gyfleusterau trawiadol sy’n gallu darparu ar gyfer cynadleddau, cyfarfodydd, sesiynau hyfforddi, dathliadau neu achlysuron un-tro.

Dwy awr yn unig ar y trên o Faes Awyr Rhyngwladol a Gorsaf Drenau Birmingham, mae’r gynadleddfa unigryw hon, gyda llety en-suite i 40 a chyfleusterau arlwyo i dros 150, yn ysbrydoli digwyddiadau gwahanol.

Cysylltwch â ni i drafod eich anghenion llogi.

Double accommodation in WISE

Arhoswch mewn ystafell ddwbl neu sengl gydag ystafell ymolchi en-suite yn ein hadeilad WISE, gyda brecwast o’n caffi llysieuol.

Aerial Footage of the CAT site in winter

Gwyrddach o lawer…

Wedi’i leoli yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen, daw’r trydan o ffynonellau ynni adnewyddadwy ar y safle gan gynnwys paneli solar ffotofoltaidd, dŵr a thyrbinau gwynt.

Mae gan WISE hefyd amrywiaeth drawiadol o gasglwyr solar thermol sy’n cyfrannu at yr anghenion dŵr twym domestig. Wedi’i leoli yn y Ganolfan Dechnoleg Amgen, canolfan hyfforddi ynni adnewyddadwy mwyaf blaenllaw’r DU, mae WISE yn sicr yn gwneud y dweud o ran y neges eco.