Cambridge University students learning about water filtration at CAT

Home » Dewch i CyDA » Grwpiau a Dysgu » Ymweliadau Prifysgol

Ymweliadau Prifysgol

Mae Canolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA) yn lleoliad delfrydol ar gyfer astudio amrywiaeth eang o bynciau.

‘Labordy fyw’ gyda phum degawd o brofiad mewn materion cynaliadwyedd; gall CyDA gynnig un pecyn hwylus o addysgu, dysgu ymarferol, llety ac arlwyo.

Wedi’i lleoli ym Miosffer Dyfi yn nhroedfryniau Parc Cenedlaethol Eryri, mae CyDA’n cynnig y cyfle i fyfyrwyr fyw a dysgu mewn canolfan addysg hollol unigryw. Wedi’i lleoli rhwng y mynyddoedd a’r môr mewn ardal â chyfoeth o hanes gwleidyddol a bioamrywiaeth, mae CyDA o fewn cyrraedd rhwydd i safleoedd diwydiannol hynafol a chynefinoedd ucheldirol Cadair Idris a Phumlumon Fawr.

Field trip near Castell Y Bere not far from CAT

Pecynnau dysgu sy’n gweddu i’ch anghenion

Dewiswch o blith rhaglenni parod neu bwrpasol ar gyfer myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig, a gyflwynir gan ein staff neu ein tiwtoriaid arbenigol. Yn addas ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio daearyddiaeth ddynol, daearyddiaeth ffisegol, gwleidyddiaeth amgylcheddol, ecoleg, gwyddor yr amgylchedd, peirianneg ynni adnewyddadwy, pensaernïaeth a deunyddiau a dulliau adeiladu gwyrdd.

Arweinir yr holl weithgareddau dysgu gan academyddion ac arbenigwyr yn y pwnc, a gellir eu cyflwyno ar y cyd â’ch dysgu chi eich hun.

Course participant on the Tiny house course

Mae gan CyDA amryw o adeiladau ynni isel arloesol, sy’n cynnwys ffrâm bren, byrnau gwellt a darlithfa 150 sedd o bridd wedi ei gywasgu. Rydym yn cynnig profiad ymarferol mewn ystod eang o ddeunyddiau a thechnegau, megis plastr calch cywarch, fframiau pren, adeiladu â phridd, toeon gwyrdd (Systemau Draenio Cynaliadwy) ac eraill.

Gallwch astudio prosesau ecolegol a rheoli cynefinoedd ar gyfer bioamrywiaeth a darparu gwasanaethau ecosystem, gan ddefnyddio arolygon, monitro ac adnabod mewn ecosystemau amlddefnydd. Mae gan CyDA saith gwahanol math o gynefinoedd gan gynnwys 20 erw o goetir, llynnoedd, sgri a chwarel hynafol.

Solar pv panels

Gweithdai ymarferol yn arbrofi ag ynni solar thermol a ffotofoltäig, gwynt, micro-hydro, biomas a phympiau gwres. Mae’r holl systemau hyn ar waith yn CyDA.

Water reservoir at CAT

Mae CyDA yn hunangynhaliol o ran dŵr. Dysgu ymarferol ar sut yr ydym yn ei gasglu, dod ag ef i safon yfed, ei reoli a’i ddefnyddio ar gyfer cynhyrchu ynni yn ogystal â golchi a choginio, ac yn trin ein holl wastraff yn unol â’n safonau uchel ein hunain. A’r cyfan yn digwydd ar y safle gan ddefnyddio ychydig iawn o ynni a heb niweidio’r amgylchedd.

Wind Turbines in the Sunset

A all y DU reoli anghenion adnoddau diwydiant, amaeth, trafnidiaeth ac ynni wrth gyrraedd allyriadau nwyon tŷ gwydr sero net? Sut y gellir ei raddio i fyny i lefel fyd-eang? Mae ein prosiect ymchwil 8 mlynedd yn esbonio’r cyfan, gan ddefnyddio darlithoedd, dadleuon ac offer modelu ynni.

Cretan Windmill

Mae data hanes llafar, taith ddarluniadol a thrafodaethau rhyngweithiol yn archwilio’r newid o gymuned fwyngloddio, trwy enedigaeth y mudiad amgylcheddol, byw yn gymunedol a hunangynhaliaeth i heriau’r presennol.