Amanda Smith
Rheolwr Hyfforddiant Prydain Di-garbon.
Mae gan Amanda dros 20 mlynedd o brofiad mewn addysgu, arweinyddiaeth ysgolion, hyfforddi oedolion a gwella sefydliadol. Mae’n addysgwr hynod gymwys a phrofiadol, gyda statws Athro Cymwysedig a Chymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawon, ac mae’n Arweinydd Addysg Arbenigol.
Mae Amanda’n credu’n gryf yng ngrym addysg i newid bywydau a dyfodol plant ac oedolion, gan eu hannog i ddeall bod y dewisiadau a wnânt yn eu bywydau pob dydd, fel unigolion, llunwyr polisi neu bobl fusnes, yn bwysig ar lefel byd-eang.
Mae gan Amanda dros 20 mlynedd o brofiad mewn addysgu, arweinyddiaeth ysgolion, hyfforddi oedolion a gwella sefydliadol. Mae’n addysgwr hynod gymwys a phrofiadol, gyda statws Athro Cymwysedig a Chymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawon, ac mae’n Arweinydd Addysg Arbenigol. Mae ei harbenigedd yn cynnwys dylunio a datblygu deunyddiau addysg o’r radd flaenaf, asesu effaith ar ddysgwyr a darparu amgylchedd i gefnogi dysgu a chadw sgiliau allweddol, yn ogystal â monitro a sicrhau ansawdd rhaglenni.
Cyn ymuno â CyDA, roedd Amanda yn Bennaeth a bu hefyd yn gweithio fel cynghorwr i’w hawdurdod addysg lleol o 2003. Yn y rôl hon roedd yn gweithio gydag ysgolion a sefydliadau eraill mewn amgylchiadau heriol i’w galluogi i ddatblygu cynlluniau gweithredu effeithiol fyddai’n arwain at newid a gwelliant sefydliadol.
Pan nad yw’n gweithio, mae Amanda ‘n mwynhau treulio cymaint o amser â phosib yn yr awyr agored yn cerdded ac yn beicio ym Mharc Cenedlaethol Eryri.