Ynni Adnewyddadwy a Mathemateg

Ynni Adnewyddadwy a Mathemateg


Home » Ynni Adnewyddadwy a Mathemateg

CWRS UNDYDD I OEDOLION, WEDI’I ARIANNU’N LLAWN.

Ymunwch â ni am ddiwrnod i archwilio technolegau adnewyddadwy ar y safle – gwynt, hydro a solar.

Cyfle i gymryd rhan mewn gweithdy ymarferol hwyliog lle y byddwch yn creu ac yn profi model o dyrbin gwynt, gan ddarganfod faint o ynni a gynhyrchir.  Cyfle i edrych ar yr hyn y mae’ch bil trydan yn ei olygu, gan archwilio sut i arbed ynni yn y cartref.

Byddwch yn gweithio gyda’n staff profiadol wrth i chi ddysgu sgiliau ymarferol a gwneud ychydig waith mathemateg sylfaenol sy’n hwyl.  Law yn llaw â dysgu sgiliau ymarferol, byddwch yn gallu archwilio ein safle prydferth a mwynhau cinio llysieuol blasus am ddim.

Gwybodaeth allweddol

  • Dydd Iau 17 Hydref
  • 11am tan 2pm
  • Ariannir yn llawn trwy raglen Lluosi, sy’n ceisio helpu oedolion i wella eu hyder gyda rhifau yn ystod bywyd bob dydd
  • Er mwyn mynychu, rhaid eich bod:
    • Yn breswylydd ym Mhowys
    • O leiaf 19 oed
    • Heb fod wedi sicrhau cymhwyster rhifedd Lefel 2 neu TGAU Mathemateg
  • Bydd yn cynnwys: hyfforddiant, cinio bwffe, cyfraniad at gostau teithio
  • Bydd angen y canlynol arnoch: argymhellir esgidiau cryf, haenau a dillad dal dŵr – dosbarthir rhagor o wybodaeth cyn i’r cwrs gychwyn
  • Ni chynhelir asesiadau na phrofion eraill, mae’n ymwneud ag archwilio mathemateg a sut y gallwch ei ddefnyddio o ddydd i ddydd
  • Gweler ein cyrsiau eraill, sef Adeiladu Cynaliadwy a Mathemateg, Coedwigaeth Gynaliadwy a Mathemateg – gallwch fynychu cymaint ag y byddwch yn dymuno (os bydd lleoedd ar gael)

Am wybodaeth bellach neu i archebu lle ar ddyddiad neu ddyddiadau o’ch dewis, cysylltwch ag education@cat.org.uk