CWRS UNDYDD I OEDOLION, WEDI’I ARIANNU’N LLAWN.
Ymunwch â ni am ddiwrnod i archwilio ein coetir a darganfod sut i ofalu amdani er mwyn hyrwyddo bioamrywiaeth.
Ymunwch â ni am ddiwrnod i archwilio ein coetir a darganfod sut i ofalu amdani er mwyn hyrwyddo bioamrywiaeth.
Cyfle i gymryd rhan mewn gweithdai ymarferol hwyliog lle y byddwch yn darganfod am reoli coetiroedd, gan fesur a monitro yr hyn y byddwch yn ei ganfod. Cyfle i roi cynnig ar waith coed gwyrdd ymarferol gan ddefnyddio rhai sgiliau mathemateg fel mesur ac amcangyfrif.
Byddwch yn gweithio gyda’n staff profiadol wrth i chi ddysgu sgiliau ymarferol a gwneud ychydig waith mathemateg sylfaenol sy’n hwyl. Law yn llaw â dysgu sgiliau ymarferol, byddwch yn gallu archwilio ein safle prydferth a mwynhau cinio llysieuol blasus am ddim.
Gwybodaeth allweddol
- Dydd Iau 15 Hydref
- 11am tan 2pm
- Ariannir yn llawn trwy raglen Lluosi, sy’n ceisio helpu oedolion i wella eu hyder gyda rhifau yn ystod bywyd bob dydd
- Er mwyn mynychu, rhaid eich bod:
- Yn breswylydd ym Mhowys
- O leiaf 19 oed
- Heb fod wedi sicrhau cymhwyster rhifedd Lefel 2 neu TGAU Mathemateg
- Bydd yn cynnwys: hyfforddiant, cinio bwffe, cyfraniad at gostau teithio
- Bydd angen y canlynol arnoch: argymhellir esgidiau cryf, haenau a dillad dal dŵr – dosbarthir rhagor o wybodaeth cyn i’r cwrs gychwyn
- Ni chynhelir asesiadau na phrofion eraill, mae’n ymwneud ag archwilio mathemateg a sut y gallwch ei ddefnyddio o ddydd i ddydd
- Gweler ein cyrsiau eraill, sef Adeiladu Cynaliadwy a Mathemateg, Coedwigaeth Gynaliadwy a Mathemateg – gallwch fynychu cymaint ag y byddwch yn dymuno (os bydd lleoedd ar gael)
Am wybodaeth bellach neu i archebu lle ar ddyddiad neu ddyddiadau o’ch dewis, cysylltwch ag education@cat.org.uk