Diwrnod Gwehyddu Helyg gyda myfyrwyr CyDA yn rhad ac am ddim

Diwrnod Gwehyddu Helyg gyda myfyrwyr CyDA yn rhad ac am ddim


Home » Diwrnod Gwehyddu Helyg gyda myfyrwyr CyDA yn rhad ac am ddim

Ymunwch a myfyrwyr Pensaernïaeth Adnewyddadwy CyDA ar gyfer diwrnod o wehyddu helyg fel rhan o’u prosiect adeiladu gydag Oriel Mostyn a’r Oriel Genedlaethol.

Fel rhan o ddaucanmlwyddiant yr Oriel Genedlaethol, bydd myfyrwyr CyDA yn cydweithio gydag Oriel Mostyn yn Llandudno I ddylunio a saernïo adeiledd bydd yn rhan o ddathliadau’r Haf eleni yn Sgwâr Trafalgar.

Ar y diwrnod, byddwn yn gwehyddu helyg gan ddefnyddio technegau syml. Bydd y fframiau canlyniadol yn ffurfio rhan o do’r adeiledd byddwn yn arddangos yn Sgwâr Trafalgar.

Gwybodaeth Allweddol

  • Dyddiad: 8 Chwefror, 9 Chwefror, 15 Mawrth, 16 Mawrth
  • Parhad: 10yb – 5yp
  • Ffi: Am ddim
  • Arlwyaeth: Cinio llysieuol wedi ei ddarparu gan gaffi WISE.
  • Profiad: Nid yw profiad blaenorol yn angenrheidiol.
  • Beth sydd ei angen arnoch: Rydym yn argymell dod a menig arddio neu waith ar gyfer gwehyddu.

Am gwestiynau pellach, e-bostiwch Hannah, un o’r myfyrwyr CyDA sy’n trefnu’r diwrnod – hannah.maxey@student.cat.org.uk.

Searching Availability...