Picture of Mark Adams

Mark Adams

Ymddiriedolwr

Mae Mark wedi ymrwymo i weithio tuag at gymdeithas genedlaethol a rhyngwladol sy’n fwy cyfiawn, a dyfodol lle y mae dynol ryw yn byw mewn ffordd gynaliadwy o fewn terfynau ein planed. Mae Mark yn Gyfrifydd Siartredig ac mae ganddo brofiad helaeth o faterion ariannol a llywodraethiant Byrddau.

Graddiodd Mark gyda gradd ffiseg o Brifysgol Rhydychen ddiwedd y 1980au, ac ar ôl hyn, aeth ymlaen i gymhwyso a gweithio fel Cyfrifydd Siartredig.  Treuliodd ei yrfa dros 35 mlynedd yn Llundain ac ar y llwyfan rhyngwladol fel gweithiwr proffesiynol yn y sector ariannol ym maes diwydiant a’r maes proffesiynol.

Ers ymddeol fel partner yng nghwmni Deloitte LLP yn 2013, mae Mark wedi treulio sawl blynedd fel cyfarwyddwr anweithredol, gan gynnwys cyflawni rolau ar gyfer sefydliadau nid-er-elw.  Mae Mark wedi bod yn Gadeirydd pwyllgorau Archwilio a Risg, ac mae ganddo brofiad a diddordeb helaeth ym maes llywodraethu, adrodd ariannol, cynllunio ariannol, rheoli risg ac archwilio mewnol.

Yn ogystal â chariad oes at ei wlad enedigol, sef Cymru, mae Mark wastad wedi teimlo’n angerddol ynghylch cael cyswllt gyda byd natur ar y tir, ac ar neu dan y môr.  Dros y blynyddoedd, mae ei gariad at fyd natur wedi datblygu i fod yn bryder cynyddol am effaith dynol ryw ar ein hinsawdd a’n hecosystemau.

Mae Mark wedi bod yn gwirfoddoli mewn Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt lleol, gan brofi’r dŵr mewn afonydd lleol, a chymryd rhan mewn ymgyrchoedd gwleidyddol am faterion amgylcheddol.  Mae Mark yn teimlo’n gyffrous i allu defnyddio ei brofiad a’i sgiliau i gyfrannu at lwyddiant parhaus CyDA wrth ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf i fyw mewn ffordd gynaliadwy, a hysbysu cymunedau sut i fyw bywyd cynaliadwy mewn ffordd gyfiawn ar lefel gymdeithasol.