Picture of Andy Baylis

Andy Baylis

Ymddiriedolwr

Mae Andy, Ymddiriedolwr CyDA, yn Beiriannydd Siartredig sydd â bron i ddeg mlynedd ar hugain o brofiad yn y diwydiannau adeiladu prif ffrwd a charbon isel yn y DU.

Mae’n Aelod o’r Sefydliad Peirianwyr Sifil a’r Sefydliad Peirianwyr Strwythurol, ac mae wedi gweithio fel dylunydd, rheolwr prosiect aml-ddisgyblaethol a chyfarwyddwr cwmni mewn sectorau ar draws y diwydiant.

Dros y blynyddoedd diwethaf, cwblhaodd Andy gwrs MSc mewn Adeiladu Gwyrdd yn CyDA, gan arbenigo mewn ymchwilio i a datblygu datrysiadau ar gyfer adeiladu bach ei effaith, datrysiadau sylfeini a llawr gwaelod.

Fel cyfarwyddwr sefydlu Jengo Sustainable Design, mae wedi hyrwyddo prosiectau sy’n defnyddio deunyddiau naturiol a bach eu heffaith fel fframiau pren, byrnau gwellt, pren crwn, clom, plastrau clai a lloriau pridd.  Ar hyn o bryd, datblygir prosiectau adeiladu heb ddefnyddio sment a chan ddefnyddio deunyddiau lleol wedi’u haddasu at ddibenion gwahanol.