Picture of Dr Rhiannon Turner

Dr Rhiannon Turner

Ymddiriedolwr

Ymwelodd Rhiannon â CyDA y tro cyntaf pan oedd yn blentyn ifanc yn y 1980au. Mae’r atgofion o’r lleoliad anarferol hwn a’r gweithgareddau a gyflawnodd yma wedi aros gyda hi, ac roedd hi wrth ei bodd o gael y cyfle i ymuno â’r Bwrdd. Mae Rhiannon yn gweithio fel Rheolwr Arloesi gyda’r Ymddiriedolaeth Carbon, ar ôl treulio 20 mlynedd cyn hynny yn gweithio fel atwrnai patentau.

Mae gan Rhiannon gefndir gwyddonol ar ôl astudio y Gwyddorau Naturiol ym Mhrifysgol Caergrawnt, a sicrhau gradd PhD yno hefyd.  Treuliodd 20 mlynedd fel atwrnai patentau yn arbenigo mewn gwyddorau bywyd a dyfeisiau biodechnoleg, gan gynnwys 11 mlynedd fel partner mewn cwmni bach yng Ngwlad yr Haf.

Yn 2021, penderfynodd adael y byd Eiddo Deallusol, ac roedd yn dymuno defnyddio ail hanner ei gyrfa i ganolbwyntio ar ymdrechion i fynd i’r afael â newid hinsawdd.  Yn 2022, dechreuodd weithio fel Rheolwr Arloesi yn yr Ymddiriedolaeth Carbon, gan weithio gyda chwmnïau sydd â thechnoleg arloesol er mwyn cynorthwyo’r newid i Sero Net, gyda’r nod o sicrhau bod eu technoleg yn cyrraedd y farchnad yn gyflymach.

Fel un o Ymddiriedolwr CyDA, mae Rhiannon yn teimlo’n gyffrous i fod yn cefnogi’r sefydliad gyda’i waith yn ystod y cyfnod tyngedfennol hwn sy’n arwain at 2030.  Yn ogystal â bod ar y prif Fwrdd, mae Rhiannon yn eistedd ar y Pwyllgor Cyllid.  Mae Rhiannon yn mwynhau treulio cymaint o amser ag y gall yn yr awyr agored, yn enwedig yn y goedwig.