Mae CyDA yn chwilio am Gynorthwyydd Gweithredol sy’n meddu ar sgiliau ysgrifenyddol a gweinyddol i gynorthwyo arweinyddiaeth effeithiol y sefydliad.
Ynghylch CyDA
Mae Canolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA) yn elusen amgylcheddol sy’n adnabyddus yn rhyngwladol, mae’n ganolfan eco flaenllaw ar lefel fyd-eang, ac yn un o ddarparwyr pennaf addysg amgylcheddol ôl-raddedig yn y DU, wedi’i lleoli ger Machynlleth ym Mhowys, Canolbarth Cymru.
Mae CyDA yn cynnig ysbrydoliaeth, addysg a hyfforddiant ynghylch datrysiadau i’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth.
Mae’r prif weithgareddau yn cynnwys canolfan ymwelwyr lle y gall pobl weld datrysiadau ar waith, cyrsiau preswyl byr, hyfforddiant galwedigaethol a graddau ôl-raddedig mewn ystod eang o bynciau sy’n ymwneud â chynaliadwyedd, a chynigir cyrsiau a digwyddiadau ar-lein law yn llaw â chyfleoedd dysgu wyneb yn wyneb
Manylion Swydd
- Cyfeirnod: EA250331
- Maes Cyfrifoldeb: Cymorth gweinyddol ar gyfer y Cyd Brif Swyddog Gweithredol, y Cyfarwyddwr Cyllid a Gweithrediadau, y Tîm Reoli Uwch ac Ymddiriedolwyr yr elusen
- Atebol i: Cyd Brif Swyddog Gweithredol, Paul Booth
- Cyfrifol am: Dim dyletswyddau fel rheolwr llinell
- Math o gontract: Parhaol
- Lleoliad: Safle Elusen CYDA ger Machynlleth, Canolbarth Cymru. Rhywfaint o weithio o bell yn bosibl.
- Oriau: 37.5 awr yr wythnos (1.0 FTE).
- Diwrnodau gweithio: Dydd Llun i ddydd Gwener fel arfer
- Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 9am 02 Mai 2025
- Cyfweliadau i’w cynnal: Wythnos yn dechrau 12 Mai 2025 (ar safle)
- Dyddiad cychwyn disgwyliedig: cyn gynted ag sy’n bosib
Cyflog a buddion gweithiwr:
£24,901.50 y flwyddyn
Mae Canolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA) yn cynnig lwfans gwyliau blynyddol hael o 25 diwrnod y flwyddyn, yn ogystal â gwyliau banc, a lwfans ychwanegol adeg y Nadolig (3 diwrnod fel arfer), yn ogystal ag 1 diwrnod ychwanegol am bob blwyddyn a weithir (hyd at 5 diwrnod).
Mae CyDA hefyd yn cynnig pecyn deniadol o fuddion i weithwyr, gan gynnwys:
- Cinio poeth am ddim a diodydd poeth am ddim o’r caffi pryd bynnag y byddwch yn gweithio o ganolfan eco CyDA;
- Gostyngiad o 40% ar nwyddau manwerthu a brynir oddi wrth CyDA;
- Cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant DPP, cymwysterau ac aelodaeth broffesiynol i’w hariannu gan CyDA;
- Cyfle i ddilyn 1 gwrs byr CyDA y flwyddyn yn rhad ac am ddim;
- Y cyfle i brynu diwrnodau gwyliau ychwanegol;
- Cynllun ‘Seiclo i’r Gwaith’;
- Cyfraniad pensiwn o 5%;
- Hawliad mamolaeth a thadolaeth hael a budd-dal marw yn y swydd;
- 2 awr y mis ar gyfer iechyd a lles cyffredinol a 2 awr y mis ar gyfer hyfforddiant yn y Gymraeg.
Trosolwg o’r Rôl
Mae’r swydd hon yn gyfle cyffrous i gynorthwyo arweinyddiaeth elusen genedlaethol mewn cyfnod pan fo’r sefydliad yn ceisio cynyddu ei effaith wrth weithio i sicrhau cymdeithas gynaliadwy.
Mae’r Cynorthwyydd Gweithredol yn gyfrifol am weinyddu cyfarfodydd Bwrdd a rheoli (gwasanaethau ysgrifenyddiaeth), cynorthwyo gyda rheolaeth dyddiadur a swyddfa y Cyd Brif Weithredwr a chynnig cymorth gweinyddol i’r Cyfarwyddwr Cyllid a Gweithrediadau.
Mae CyDA yn chwilio am ymgeisydd sy’n meddu ar sgiliau ysgrifenyddol a gweinyddol i gynorthwyo arweinyddiaeth effeithiol y sefydliad. Rheolwr llinell deiliad y swydd fydd y Cyd Brif Weithredwr/Cyfarwyddwr Cyllid a Gweithrediadau, ond byddant hefyd yn cydweithio’n agos gyda’r Ymddiriedolwyr.
Prif Gyfrifoldebau
Cynorthwyo gyda rheolaeth swyddfa a’r Dyddiadur:
- Cynllunio a threfnu cyfarfodydd, apwyntiadau a choladu gwybodaeth cyn cyfarfodydd
- Monitro negeseuon e-bost, post a galwadau ffôn y Cyd Brif Weithredwr yn ôl y gofyn a delio gyda materion gweinyddol gan gynnwys golygu a fformatio dogfennau, cydlynu, diweddaru a fformatio polisïau CyDA.
- Cynnig cymorth trefnu a dyddiadur i’r Cadeirydd a’r Ymddiriedolwyr eraill, gan gynnwys cymryd cofnodion yn ystod cyfarfodydd, amserlennu cyfarfodydd, sicrhau bod y sawl sy’n mynychu yn cyflwyno’r papurau gofynnol a dosbarthu’r rhain.
- Cadw cofnodion o gofnodion cyfarfodydd y Bwrdd a chyfarfodydd rheoli, gohebiaeth gyda Thŷ’r Cwmnïau a dogfennaeth swyddogol arall
- Cynnig cymorth gweinyddol i’r Cyfarwyddwr Cyllid a Gweithrediadau ac aelodau eraill y Tîm Rheoli Uwch yn ôl yr angen
- Cynnal a datblygu systemau swyddfa
Gwasanaethau ysgrifenyddiaeth:
- Coladu a dosbarthu papurau agenda ar gyfer cyfarfodydd Bwrdd a rheoli a chyfarfodydd eraill yn ôl y gofyn
- Cymryd cofnodion yn ystod cyfarfodydd Bwrdd a rheoli a chyfarfodydd eraill yn ôl y gofyn a chadw cofnodion gweithredu
- Cynnal a chyfleu gwybodaeth am raglen cyfarfodydd Bwrdd, cyfarfodydd rheoli a chyfarfodydd eraill
- Cynorthwyo gyda’r cyfathrebu gydag Ymddiriedolwyr rhwng cyfarfodydd
- Cynorthwyo’r Cyfarwyddwr Cyllid a Gweithrediadau a’r Cyd Brif Swyddog Gweithredol wrth sicrhau bod y sefydliad yn cadw at ei dogfennau llywodraethu
Cymorth gweinyddol arall:
- Cynorthwyo’r Cyfarwyddwr Cyllid a Gweithrediadau, y Cyd Brif Swyddogion Gweithredol a’r Cadeirydd wrth goladu a chyflwyno ffurflenni blynyddol a gohebiaeth arall gyda’r Comisiwn Elusennau a Thŷ’r Cwmnïau
- Cyflenwi ar gyfer swyddogaethau eraill o fewn y tîm gweinyddol canolog yn ôl yr angen
- Darparu cymorth gweinyddol arall i’r Cyd Brif Swyddog Gweithredol a’r Tîm Rheoli Uwch yn ôl yr angen, megis prawfddarllen, coladu adroddiadau a gwaith ymchwil sylfaenol ar y we.
Unrhyw ddyletswyddau priodol eraill sy’n cael eu diffinio gan y Cyd Brif Swyddog Gweithredol a’r Cyfarwyddwr Cyllid a Gweithrediadau.
I ddysgu mwy am y rôl, lawrlwythwch y disgrifiad swydd llawn:
Dylid anfon ceisiadau ymlaen at vacancy@cat.org.uk erbyn y dyddiad cau sy’n nodi teitl y swydd yn y llinell Pwnc.
Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau at vacancy@cat.org.uk
Rhaid llenwi ffurflen gais, ni dderbynnir CV.