Sicrhau Buddsoddiad ar gyfer Pennod Nesaf CyDA

Sicrhau Buddsoddiad ar gyfer Pennod Nesaf CyDA


Home » Sicrhau Buddsoddiad ar gyfer Pennod Nesaf CyDA

Rydym yn eithriadol o falch o allu rhannu’r newyddion cyffrous bod cam cyntaf y buddsoddiad ar gyfer prosiect ailddatblygu trawsnewidiol CyDA, Cynefin, wedi cael ei gymeradwyo’n swyddogol.

Diolch i gymorth Bargen Twf Canolbarth Cymru (TCC), rydym bellach yn symud ymlaen gyda gwaith dylunio a chynllunio manwl a fydd yn gosod y sylfeini ar gyfer pennod newydd fentrus i CyDA.  Mae’r cyllid cychwynnol hwn yn galluogi gwaith uwchraddio hanfodol i rai o’n mannau mwyaf eiconig hefyd, gan gynnwys:

  • Gwaith sylweddol i ailfodelu adeilad WISE (Sefydliad Cymru ar gyfer Addysg Gynaliadwy) – diogelu’r lle hwn, sydd wedi ennill gwobrau, ar gyfer y dyfodol, a chenhedlaeth nesaf ein harweinwyr cynaliadwyedd.
  • Adnewyddu’r Bythynnod Chwarel – gwella ein llety ar y safle er mwyn croesawu mwy o ddysgwyr ac ymwelwyr.
  • Gwaith sylweddol i uwchraddio’r Theatr Byrnau Gwellt – creu lleoliad mwy ysbrydoledig a hygyrch er mwyn cynnal anerchiadau, perfformiadau, ymweliadau ysgol a digwyddiadau cymunedol.

Mae hwn yn ymwneud gyda mwy na brics a morter yn unig.  Mae’n ymwneud ag ailddychmygu CyDA fel canolfan o safon byd ar gyfer addysg cynaliadwyedd, arloesi a chymuned – wedi’i hymwreiddio yn nhirlun a diwylliant Cymru, ac yn cael ei phweru gan systemau atgynhyrchiol o ran ynni, dŵr, gwastraff a seilwaith.

Wales Institute for Environmental Education (WISE) building
Adeiladwyd Sefydliad Cymru ar gyfer Addysg Gynaliadwy (WISE) yn 2010 fel cartref i gyrsiau a hyfforddiant ôl-raddedig CyDA. Fe’i cynlluniwyd i gael effaith amgylcheddol isel iawn wrth adeiladu a defnyddio, ac mae’n gwasanaethu fel enghraifft ac arddangosiad effeithiol o dechnegau adeiladu cynaliadwy. Credyd: Tim Soar

Beth yw Cynefin?

Gair Cymraeg yw Cynefin sy’n cyfeirio at ein cysylltiad dwfn â lle a pherthyn – a dyma’n union y mae’r prosiect ailddatblygu hwn yn ymwneud ag ef.  Mae’r prosiect yn galluogi ein gweledigaeth am CyDA sy’n brysur, sy’n gynhwysol ac sy’n ysbrydoli, gan gynorthwyo pontio cyfiawn i ddyfodol di-garbon o’n cartref yn chwarel Llwyngwern, sydd wedi cael ei hadfywio, yng Nghanolbarth Cymru.

Trwy brosiect Cynefin, rydym yn creu’r lleoedd, y rhwydweithiau ac yn rhannu’r sgiliau angenrheidiol er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth yn uniongyrchol.  Mae’r cam cyntaf hwn yn gam hanfodol ar y daith honno – gan ein helpu i wella amgylcheddau dysgu, ehangu ein capasiti a dangos arweinyddiaeth hinsawdd trwy ei gweithrediadau.  Mae prosiect Cynefin yn adlewyrchu uchelgais rhanbarth Canolbarth Cymru i arwain ym maes arloesi gwyrdd hefyd.  Trwy ddatblygu profiad mwy ymdrochol, ysbrydoledig a hygyrch i ddysgwyr, twristiaid a’r rhai sy’n sicrhau newid, bydd yn cynyddu nifer yr ymwelwyr a thwf economaidd yn yr ardal, gan gynorthwyo gwaith hanfodol i fynd i’r afael â newid hinsawdd ar yr un pryd.

Pam Nawr?

Mae angen datrysiadau ymarferol a beiddgar ar y byd i’r argyfwng hinsawdd – ac mae CyDA wedi bod yn arloesi gyda’r datrysiadau hynny ers dros 50 mlynedd.  Gyda’r buddsoddiad hwn, rydym yn datblygu’r waddol honno er mwyn cyrraedd mwy o bobl, rhannu mwy o wybodaeth, a dyfnhau ein heffaith.

Dywedodd Eileen Kinsman, Cyd Brif Swyddog Gweithredol Canolfan y Dechnoleg Amgen:  “Rydym wrth ein bodd i sicrhau’r cymorth hwn trwy Fargen Twf Canolbarth Cymru.  Mae’n dwyn hyder o’r newydd yn ein gweledigaeth ac yn ein galluogi i ddechrau ar waith sylweddol i uwchraddio ein hadeilad WISE unigryw.  Mae Cynefin yn ymwneud â dychmygu dyfodol di-garbon a chreu’r rhwydweithiau, y sgiliau a’r mannau er mwyn helpu i hynny ddigwydd.  Mae hwn yn gam hanfodol er mwyn sicrhau bod CyDA yn parhau i ysbrydoli, addysgu ac arwain y ffordd o ran datrysiadau hinsawdd – ar lefel ranbarthol a thu hwnt.”

Beth Nesaf?

Y dechrau yw hwn.  Datblygir prosiect Cynefin mewn camau, a bydd pob cam yn datgloi cyfleoedd newydd i gynyddu ein heffaith.  Bydd camau yn y dyfodol yn gwella ein capasiti i ddarparu dysgu ymdrochol, cynorthwyo datblygiad sgiliau gwyrdd, a chroesawu cymuned ehangach o bobl sy’n sicrhau newid.  Mae myfyrwyr ôl-raddedig CyDA eisoes wedi gallu dysgu gan rywfaint o’r gwaith cynllunio ac arolygu sy’n mynd rhagddo, ac mae hyn wedi cynnig cyfleoedd ychwanegol law yn llaw â’u graddau Meistr i gael profiad ymarferol trwy ddysgu gan arbenigwyr.

Myfyrwyr ôl-raddedig CyDA yn dysgu o'r gwaith cynllunio ac arolygu parhaus sy'n digwydd cyn adnewyddu y Bythynnod Chwarel sydd heb eu meddiannu ar hyn o bryd ar y safle.
Myfyrwyr ôl-raddedig CyDA yn dysgu o’r gwaith cynllunio ac arolygu parhaus sy’n digwydd cyn adnewyddu y Bythynnod Chwarel sydd heb eu meddiannu ar hyn o bryd ar y safle.

Dywedodd Cyd Gadeiryddion Bwrdd TCC, Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion a Chynghorydd Jake Berriman, Arweinydd Cyngor Sir Powys:  “Mae hon yn eiliad bwysig i Ganolbarth Cymru.  Nid yn unig y mae prosiect Cynefin yn diogelu ased rhanbarthol allweddol, ond mae hefyd yn gwella ein gallu i arwain ym maes arloesi carbon-isel, addysg a thwristiaeth gynaliadwy.  Rydym yn falch o gefnogi’r cam cyntaf hwn ar daith sy’n argoeli i fod yn un gyffrous iawn.”

Rydym yn hynod ddiolchgar i Fargen Twf Canolbarth Cymru a’n partneriaid am gredu yn y weledigaeth hon.  Gyda’n gilydd, rydym yn creu dyfodol mwy cydnerth, atgynhyrchiol a gobeithiol – yma yng nghalon Canolbarth Cymru.

Byddwn yn rhoi mwy o ddiweddariadau wrth i ni wireddu Cynefin.

COFRESTRU AM NEGESEUON E-BOST

Gallwch gael gwybod am yr holl weithgareddau, digwyddiadau ac adnoddau ar-lein diweddaraf trwy gofrestru i gael ein negeseuon e-bost a’n dilyn ar gyfryngau cymdeithasol. Ac os hoffech gymryd rhan a chynorthwyo ein gwaith, hoffem eich croesawu i fod yn aelod o CyDA.