Adolygiad Blynyddol

Home » Adolygiad Blynyddol

Dysgwch am ein dylanwad, ein cyrhaeddiad, a’n llwyddiant yn ein Hadolygiad Blynyddol diweddaraf.

Adolygiad Blynyddol CyDA 2020-2021

Gyda bron i 50 mlynedd o brofiad ym maes atebion amgylcheddol, a degawd o arwain agweddau ar sut y gall y DU gyrraedd sero net, mae gan CyDA rôl unigryw wrth lunio Prydain di-garbon.Mick Taylor, Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr

Wynebodd ein sefydliad nifer o heriau yn y flwyddyn 2020-2021, ond diolch i gefnogaeth pobl fel chi, roeddem yn dal i allu cyflawni ein cenhadaeth, sef i ysbrydoli, hysbysu a galluogi pobl i ymateb i’r argyfyngau hinsawdd ac ecolegol.

Cyrhaeddom gynulleidfa ehangach nag erioed o’r blaen drwy sianeli digidol newydd megis #CyDAoGartref a thrwy groesawu cyfresi Autumnwatch a Winterwatch y BBC i’n canolfan eco. Sicrhaodd ein prosiectau blaengar megis ein Hyb a Labordy Arloesi Prydain Di-garbon y gallem gyrraedd mwy o bobl a lledaenu’r neges am atebion hinsawdd ymhell ac agos. Gwnaethom hefyd gofrestru’r nifer fwyaf erioed o fyfyrwyr (256) yn ein Hysgol i Raddedigion, gyda myfyrwyr yn dysgu ar-lein wrth i ni weld diddordeb cynyddol yn ein cyrsiau ac atebion i’r argyfwng hinsawdd.

Mae’r Adolygiad Blynyddol hwn yn ymdrin â’r flwyddyn 1 Ebrill 2020 – 31 Mawrth 2021 ac yn cynnwys rhai o’n huchafbwyntiau, eiliadau allweddol, a straeon o gymuned CyDA. Gallwch lawrlwytho’r adroddiad neu ei ddarllen ar-lein drwy ddilyn y dolenni canlynol.

 

Adolygiad Blynyddol 2021-22

Ymunwch yn y newid

Mae gwaith CyDA i ysbrydoli, hysbysu a galluogi dynoliaeth i ymateb i’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth yn dibynnu ar gefnogaeth pobl fel chi.