Mae cynrychiolwyr o 6 sefydliad o Gymru wedi dod ynghyd i lansio 6 Egwyddor ar gyfer etholiadau’r Senedd ym mis Mai 2021. Datgelwyd y rhain gyntaf yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru. Ein nod yw creu llais uwch i fynnu bod pleidiau gwleidyddol Cymru yn blaenoriaethu’r argyfwng hinsawdd a natur o fewn eu maniffestos etholiadol. Rydym yn herio pob plaid wleidyddol i gymeradwyo’r 6 Egwyddor hyn, er mwyn sicrhau bod Cymru yn wlad sy’n deg ac yn gyfiawn i bawb, sy’n gyfrifol yn fyd-eang ac yn amddiffyn cenedlaethau’r dyfodol.
Y sefydliadau yw: Comisiwn Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Coed Cadw / y Woodland Trust yng Nghymru, Canolfan y Dechnoleg Amgen, yr Asiantaeth Gatholig ar gyfer Datblygu Tramor (CAFOD), Cadwraeth Morfilod a Dolffiniaid, a Gwrthryfel Difodiant Cymru. Gwahoddir sefydliadau ac unigolion eraill i ymuno â’r ymgyrch a mabwysiadu’r 6 Egwyddor.
Y Chwe Egwyddor i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd ac ecolegol yw:
- Gwneud yr hyn sydd ei angen i chwarae ein rhan wrth gyfyngu gwresogi byd-eang i 1.5 gradd C, gyda gostyngiadau dyfnach a chyflymach o lawer mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr.
- Hyrwyddo datrysiadau hinsawdd naturiol i dynnu carbon deuocsid (CO2) o’r atmosffer, atal y dirywiad mewn bywyd gwyllt, adfer natur a helpu i reoli risg llifogydd.
- Adnabod ein hôl troed ecolegol byd-eang cyfan a achosir gan yr holl nwyddau rydyn ni’n eu prynu, y bwyd rydyn ni’n ei fwyta, a’r cadwyni cyflenwi rydyn ni’n eu defnyddio.
- Rhoi cymorth i wleidyddion i wneud penderfyniadau beiddgar trwy gynnal Cynulliadau Dinasyddion a mathau eraill o gyfranogiad y cyhoedd, i gyrraedd sero net yn gyflymach a gyda thegwch i bawb.
- Gwneud lles dyfodol pobl ifanc, a’r cenedlaethau i ddod, yn ganolbwynt i’n pryder, a ffocws ein cynlluniau.
- Cefnogi sectorau economaidd sy’n creu swyddi gwyrdd mewn chwyldro carbon isel a fydd yn gwella ein hamgylchedd, cartrefi a chymunedau ac yn diogelu ein hiechyd.
Dywedodd Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol:
“Fel Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru byddaf yn parhau i dynnu sylw at newid yn yr hinsawdd fel yr her allweddol i genedlaethau’r dyfodol. Mae angen gweithredu’n gyflym nawr, a byddaf yn parhau i herio Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill i weithredu. Mae’r argyfwng hinsawdd eisoes yn digwydd ac mae’n rhaid i ni ddatgarboneiddio a helpu pobl i drosglwyddo i ffyrdd gwyrdd, newydd o fyw a gweithio. “
Dywedodd Peter Tyldesley, o Ganolfan y Dechnoleg Amgen:
“Mae arolygon barn diweddar yn y DU yn dangos bod cefnogaeth eang ar draws yr holl gymdeithas i gyrraedd sero net a gwarchod yr amgylchedd; fodd bynnag, yn amlwg nid ydym yn mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth ar y cyflymder angenrheidiol.
“Mae Llywodraeth y DU wedi newydd gyhoeddi targed lleihau allyriadau o 68 y cant erbyn 2030 i nodi pumed pen-blwydd Cytundeb Paris. Er na all Cymru gyflwyno cynllun gweithredu yn yr hinsawdd yn ffurfiol i’r broses ryngwladol hon, gall ddilyn polisïau tanysgrifenedig gan y chwe egwyddor i etholiadau’r Senedd y flwyddyn nesaf. Byddai hyn yn dangos ymroddiad Cymru i darged torri carbon 2030 yn unol ag ymdrechion i gyfyngu 1.5C ar wresogi byd-eang, a helpu i godi uchelgais fyd-eang cyn yr uwchgynhadledd hinsawdd yn Glasgow flwyddyn nesaf.”
Dywedodd Nigel Pugh, o Goed Cadw, y Woodland Trust yng Nghymru:
“Mae Coed Cadw yn gweld ein cynllun talu amaethyddol arfaethedig ‘Gwrychoedd ac Ymylon’, sy’n rhan o’r ymgyrch ‘I’r Gad Dros yr Hinsawdd’, fel ymyrraeth frys wrth wyrdroi a lleihau’r argyfwng deuol hinsawdd a natur. Mae Gwrychoedd ac Ymylon yn gweithio ar raddfa’r dirwedd, mae 82% o Gymru yn dir amaethyddol, ac yn hanfodol, mae’n gweithio i ffermwyr. Gallai pob ffermwr gyflawni ei egwyddorion, os cânt eu cefnogi’n iawn, gyda buddion enfawr i’r gymuned, cynefinoedd, lleihau llifogydd a chyfleoedd cyflogaeth.”
Dywedodd Gwrthryfel Difodiant Cymru:
“Y degawd hwn yw cyfle olaf y byd i weithredu neu wynebu canlyniadau dinistriol, a bydd ein Senedd nesaf yn rheoli Cymru am hanner ohono. Dyma’r foment i bob llais yng Nghymru ymuno â’i gilydd, a gofyn i wleidyddion sefyll. Mae corff aruthrol o waith yng Nghymru ar sut i fynd i’r afael â chwalfa hinsawdd a dinistr bywyd gwyllt, sydd wedi’i gynnwys yn yr adroddiadau rydyn ni wedi’u rhestru o dan ein 6 Egwyddor. Rydym yn gofyn i bob plaid wleidyddol ddefnyddio’r 6 egwyddor hyn a’r adroddiadau wrth ysgrifennu eu maniffestos. Rydyn ni’n gwybod beth i’w wneud; nawr mae angen Senedd arnom sydd â’r dewrder i’w gwneud ar y cyflymder a’r raddfa sydd eu hangen.”