Arolwg am Strategaeth CyDA

Arolwg am Strategaeth CyDA


Home » Arolwg am Strategaeth CyDA

Mae ein Harolwg am Strategaeth CyDA nawr wedi cau. Bydd mwy o ffyrdd ar gael cyn bo hir i chi ddarparu’ch mewnbwn a chyfrannu syniadau.

Rydym yn adolygu ein strategaeth pum mlynedd a hoffem gael eich mewnbwn chi yn fawr.

Er mwyn ymateb yn gadarn i her yr hinsawdd, credwn bod angen i ni gyd gydweithio er mwyn cyd-greu’r newidiadau yr ydym yn dymuno eu gweld.  O ganlyniad, mae sicrhau mewnbwn pawb, o’n haelodau a’n myfyrwyr i staff CYDA, cyfranogwyr ar ein cyrsiau a’n cymuned leol yn eithriadol o bwysig er mwyn diffinio cyfeiriad CYDA yn y dyfodol.

Cynlluniwyd yr arolwg hwn i adolygu ein Fframwaith Strategol.  Y Fframwaith Strategol yw’r rhan o’r strategaeth sy’n diffinio ein Gweledigaeth, ein Cenhadaeth a’n Gwerthoedd.  Hon yw’r rhan o’r broses sy’n diffinio ein hunaniaeth fel sefydliad (nodir rhagor o wybodaeth isod).  Yn dilyn y rhan hon o’r broses, byddwn yn archwilio blaenoriaethau strategol ar gyfer y cyfnod nesaf, a byddem wrth ein bodd yn cael mewnbwn gennych chi y pryd hwnnw hefyd!

Rhag ofn y bydd unrhyw ddryswch – nid yw prosiect datblygu arwyddocaol CYDA a gynlluniwyd (sy’n cwblhau’r manylion olaf o hyd o ran y cyllid) yn rhywbeth sy’n diffinio strategaeth CYDA, ond mae’n bodoli i gyflawni ein strategaeth a chynyddu ein gallu i ymateb i heriau’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth.

Diolch am eich mewnbwn!