CyDA i groesawu Winterwatch y BBC

CyDA i groesawu Winterwatch y BBC


Home » CyDA i groesawu Winterwatch y BBC

Rydym yn hapus iawn i gyhoeddi y bydd Canolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA) yn croesawu Iolo Williams a thîm y BBC yn ôl i’n canolfan eco yng Nghanolbarth Cymru yn hwyrach yn y mis ar gyfer cyfres Winterwatch.

Gan ddechrau ar ddydd Mawrth 19eg Ionawr, bydd tîm y BBC yn dwyn dogn mawr-ei-angen o fyd natur i’n hystafelloedd byw wrth iddynt ein helpu i ddathlu hud y bywyd gwyllt sydd ar ein trothwy.

Yn dilyn pythefnos wych o Autumnwatch y llynedd, bydd Iolo yn rhannu golygfeydd a synau gaeaf Cymreig gwyllt gyda Chris Packham, Megan McCubbin a Gillian Burke fydd yn darlledu o leoliadau eraill yn y DU.

Iolo Williams CyDA

Wrth gyflwyno CyDA i filiynau o bobl ar draws y DU yn ystod Autumnwatch, dywedodd Iolo:

 “Yma yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen yng Nghanolbarth Cymru, maent yn meddwl ymlaen i’r dyfodol. Mae goroesiad ein planed wrth graidd y lle hwn.”

Yn nythu yn nhroedfryniau’r Eryri, yng Ngwarchodfa Biosffer Dyfi UNESCO, mae CyDA yn cynnig cyfle i bobl ymgysylltu â natur wrth weithio gyda’i gilydd i ganfod atebion i’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth.

Mae safle CyDA yn esiampl fyw o’r hyn all ddigwydd pan fydd pobl yn camu i’r adwy i roi help llaw i natur.

Mae’r hyn oedd unwaith yn chwarel llechi diffrwyth wedi ei drawsnewid dros 50 mlynedd i greu tapestri cyfoethog o gynefinoedd sy’n gartref i ystod eang o rywogaethau.  Mae chwe math o ystlumod,  pathewod y cyll prin, draenogod, pendewion, cyffylogod, titŵod yr helyg, belaod y coed a llawer llawer mwy o rywogaethau wedi canfod hafan ddiogel yng nghoedwigoedd a mannau gwyllt CyDA.

Wrth gyrraedd CyDA y llynedd, dywedodd Iolo:

 “Mae cymaint o fywyd gwyllt yng Nghanolbarth Cymru ac mae’n hyfryd ei weld yn ffynnu ar safle a oedd ar un adeg yn chwarel llechi diwydiannol.

“Ond hyd yn oed lle mae bywyd gwyllt yn ffynnu, rydym yn gwybod bod y newid i’r hinsawdd eisoes yn cael effaith ar fioamrywiaeth yn y DU. Rhaid gweithredu nawr, fel cenedl, neu fe allai peth o’n bywyd gwyllt gael ei golli am byth.”

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae nifer ohonom wedi dod i werthfawrogi’r byd naturiol yn fwy nag erioed o’r blaen, ac mae rhaglenni fel Springwatch ac Autumnwatch wedi bod o gymorth mawr i ni o ran adnabod y bywyd gwyllt sydd ar stepen ein drws.

CyDA

Dywedodd Peter Tyldesley, Prif Swyddog Gweithredol Canolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA):

“Rydym yn disgwyl ymlaen yn eiddgar at groesawu Iolo a’r tîm yn ôl i CyDA i rannu bywyd gwyllt gwych Canolbarth Cymru â gwylwyr ledled y DU.

“Yn aml iawn, dysgu i werthfawrogi ein byd naturiol rhyfeddol  yw’r cam cyntaf tuag at ei ddiogelu; gall rhaglenni fel Winterwatch helpu i danio’r cariad hanfodol hwnnw tuag at natur.

“Rhoddodd Autumnwatch y llynedd gipolwg hynod ddiddorol i ni i ystod eang o rywogaethau, ac rydym yn disgwyl ymlaen i weld beth fydd y newid tymhorol yn ei ddwyn i CyDA a Dyffryn Dyfi.”

Mae CyDA ar gau i ymwelwyr ar hyn o bryd yn unol â rheolau Cofid Llywodraeth Cymru, ond – diolch i Winterwatch – gallwch fwynhau ymweliad rhithwir a phrofi hud a lledrith bywyd gwyllt Canolbarth Cymru o’ch ystafelloedd byw.

Dilynwch CyDA i weld y diweddaraf wrth i ni baratoi i groesawu #Winterwatch – byddwn yn rhannu’r holl gyfoeth byd natur a’r atebion y mae’n eu cynnig.

Winterwatch yn CyDA

Efallai na allwch ymweld â CyDA ar hyn o bryd, ond gallwch ddal i fwynhau hud a lledrith bywyd gwyllt y gaeaf yng Nghanolbarth Cymru – yn fyw yn eich ystafelloedd byw.

COFRESTRU AR E-BOST

Gallwch gael y wybodaeth am yr holl weithgareddau, digwyddiadau ac adnoddau ar-lein diweddaraf drwy gofrestru ar gyfer ein e-byst a'n dilyn ar gyfryngau cymdeithasol. Ac os hoffech chi gymryd rhan a chefnogi ein gwaith, byddem wrth ein bodd yn eich croesawu fel aelod CyDA.