Ar agor ar hyn o bryd ar gyfer ymweliadau wedi’u trefnu ymlaen llaw yn unig (cyrsiau, digwyddiadau, Gwely a Brecwast, grwpiau, myfyrwyr) – darllen mwy

Llunio Dyfodol CyDA

Diolch am eich cyfraniad hyd yn hyn wrth helpu i lunio dyfodol CyDA

Bydd ein gweledigaeth yn gweld creu mannau newydd ar gyfer addysg mewn atebion cynaliadwy; ardaloedd i ddarparu sgiliau gwyrdd ar gyfer y dyfodol; a phrofiad ymdrwythol o’r radd flaenaf ar gyfer ymwelwyr.

Bydd ein cynlluniau’n canolbwyntio ar drawsnewid gallu CyDA i ddarparu’r sgiliau, y wybodaeth a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen i sicrhau dyfodol di-garbon a chymdeithas gynaliadwy, a chânt eu llywio gan ymgynghoriad cyhoeddus ac ymchwil fanwl.

Bydd gan y prosiect fanteision pellgyrhaeddol, gan ein galluogi i gynnwys cynulleidfa ehangach fyth yn ein gwaith hanfodol ar atebion hinsawdd. Bydd hefyd yn cryfhau canolbarth Cymru fel cyrchfan i’r rhai sydd am ddysgu mwy am y rhan y gallant ei chwarae wrth greu dyfodol iachach a mwy diogel i’n planed.

Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu hyd yn hyn – o fynychu ein sesiynau galw heibio i lenwi ein harolwg ar-lein. Rydym yn edrych ymlaen at rannu mwy o fanylion am y cynlluniau wrth iddynt ddatblygu yn sgil y mewnbwn gwerthfawr hwn. I dderbyn diweddariadau, cadwch lygad ar ein gwefan neu cofrestrwch i dderbyn ein e-gylchlythyr.

Eich llais chi

Mae CyDA wedi cynnal ystod o ddigwyddiadau ac arolygon personol, o bell ac arlein i sicrhau ymgysylltu manwl ac eang – gan ganiatáu i ni gasglu cymaint o adborth â phosib wrth y rhai fydd yn helpu i lunio dyfodol CyDA.

Mae’r digwyddiadau allweddol wedi cynnwys:

  • sesiynau arlein gyda myfyrwyr, aelodau a chefnogwyr
  • Diwrnod Agored Cymunedol
  • sesiynau galw heibio ym marchnad wythnosol Machynlleth
  • arddangosfeydd yn CyDA i gasglu mewnbwn gan ymwelwyr
  • trafodaethau un-i-un a grŵp gydag ystod eang o randdeiliaid eraill, gan gynnwys ysgolion, grwpiau prifysgol ar ymweliad a busnesau lleol
  • arolwg a gynhaliwyd yn ystod gwanwyn/haf 2022 a gasglodd dros 300 o ymatebion.

Wrth i gynlluniau ddatblygu, bydd cyfleoedd pellach i ddweud eich dweud, felly cadwch lygad ar y dudalen hon a chofrestrwch i dderbyn e-gylchlythyr CyDA i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Ariannwyd astudiaethau dichonoldeb ar gyfer y prosiect gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Adnewyddu Cymunedol y DU.