Astudiwch yn CyDA

YSGOL GRADDEDIGION YR AMGYLCHEDD

Wal pridd wedi'i hyrddio o amgylch y ddarlithfa yn Ysgol Graddedigion CyDA

ARCHWILIO EIN CYRSIAU

Dewiswch rhwng ein cyrsiau ôl-raddedig amser llawn a rhan-amser, gan ddarganfod sut y gallwch chi feithrin y sgiliau y mae eu hangen arnoch er mwyn helpu i sicrhau byd mwy cynaliadwy.

Ymgeisiwch cyn 11 Mehefin ar gyfer ein mynediad Medi 2025, rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau lle.

Myfyrwyr yn cerdded trwy gerddi CyDA

YMUNWCH Â NI AR DDIWRNOD AGORED

Mae cyfle i gael gwybod mwy am astudio yn CyDA trwy archebu lle i ymuno neu wylio ein diwrnod agored nesaf a gynhelir ar y safle neu dan drefniant rhith. Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig felly argymhellir eich bod yn archebu lle yn gynnar.

Pam astudio gyda ni?

Cychwynnwch ar daith addysgol drawsnewidiol trwy astudio yn Ysgol Graddedigion yr Amgylchedd CyDA, gan ddatgloi byd o gyfleoedd.

Bydd astudio ar un o’n cyrsiau ôl-raddedig* yn eich helpu i feithrin gwybodaeth, ysbrydoliaeth a rhwydweithiau er mwyn gwneud gwahaniaeth go iawn yn eich maes wrth i chi archwilio dull gweithredu integredig ar gyfer cynaliadwyedd sy’n ystyried y darlun mawr.

  • Cael budd gan 50 mlynedd o brofiad CyDA ym maes cynaliadwyedd.
  • Manteisio ar y dewisiadau astudio hyblyg sydd ar gael, gan ganiatáu i chi fwynhau ymweliadau astudio trochol i CyDA neu astudio o bell yn llwyr. Gallwch ddewis astudio eich cwrs dan drefniant rhan-amser neu amser llawn.
  • Cyfle i ymestyn eich rhwydweithiau trwy gyfrwng cymuned myfyrwyr CyDA a chyfarfod cyd fyfyrwyr sy’n teimlo’n angerddol ynghylch sicrhau newid.
  • Dysgu gan ddarlithwyr arbenigol a siaradwyr gwadd blaenllaw o’r diwydiant, a meithrin profiad a sgiliau ymarferol gyda dull gweithredu ymarferol dysgu trwy wneud unigryw CyDA.
  • Sicrhau cymhwyster ar gwrs a gaiff ei gydnabod ar draws y byd ac a ddarparir gan CyDA a’i ddilysu gan ein prifysgolion partner.
  • Ymuno â rhwydwaith graddedigion sy’n tyfu a defnyddio eich sgiliau a’ch gwybodaeth i wneud gwahaniaeth go iawn trwy gyfrwng amrywiaeth o lwybrau gyrfa.

Gweithredwch nawr ar gyfer dyfodol cynaliadwy – ymunwch â ni yn ystod diwrnod agored neu ewch ati i lenwi eich cais heddiw.

*Ar hyn o bryd dim ond trwy’r Saesneg y cynigir ein cyrsiau ol-raddedig gan mai Prifysgol Dwyrain Llundain (UEL) a Phrifysgol John Moores Lerpwl (LJMU) sy’n achredu ein graddau.

Roedd strwythur hyblyg y cwrs yn golygu bod modd i mi astudio gyda CyDA. Gydag wythnosau addysgu ar y safle sy’n arbennig o ddwys, law yn llaw â threfniant astudio o bell, roeddwn yn gallu sicrhau bod fy astudiaethau yn cyd-fynd â’m bywyd, ac roeddwn yn gallu ymdrochi yn, cael fy ysbrydoli gan a meithrin cyfeillgarwch newydd agos ar y safle ac yng nghymuned unigryw CyDA, sy’n cynnwys myfyrwyr, tiwtoriaid a rhwydwaith eang y graddedigion.

Elliott Harker Dempsey – Graddedig CyDA

Myfyrwyr CyDA yn Theatr Sheppard

Ffioedd a Chyllid

Darllenwch am y cyllid sydd ar gael i fyfyrwyr a’r newyddion diweddaraf am ein ffioedd dysgu a’n costau cysylltiedig.
Dysgu mwy
Myfyriwr CyDA yn dadansoddi nodiadau post it wedi'u gosod ar fwrdd y gweithdy gwaith grŵp

Myfyrwyr Cyfredol

Gallwch weld y dogfennau, y llawlyfrau myfyrwyr, y polisïau a’r gweithdrefnau y mae eu hangen arnoch fel myfyriwr CyDA cyfredol.
Archwilio

Cychwyn ar eich cais

Dechreuwch eich proses o ymgeisio heddiw. Ymgeisiwch am ein mynediad Medi 2025. Dyddiad cau: 11 Mehefin 2025.
Ymgeisio

Cysylltwch â ni

A hoffech chi gael gwybod mwy am gwrs neu am y profiad o astudio yn CyDA? Anfonwch neges at ein staff – byddant yn hapus i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi.