Telerau ac Amodau
Cymhwyster i Fynychu
Oni bai y nodir fel arall ar dudalen y cwrs, rhaid i chi fod yn 18 oed neu’n hŷn i fynychu un o’n cyrsiau byr.
Er ein bod yn caniatáu cŵn ar y safle (gyda rhai cyfyngiadau o ran lleoliadau), nid ydym yn caniatáu iddynt ddod gyda’u perchnogion ar gyrsiau (ac eithrio cŵn tywys) am resymau Iechyd a Diogelwch.
Nid oes gennym gyfleusterau cenel ar y safle, felly disgwylir i berchnogion ddarparu gofal amgen ar gyfer eu cŵn tra’u bod ar ein cyrsiau.
Mae rhai o’n cyrsiau’n hynod ymarferol ac yn gofyn i chi ddod â’ch esgidiau diogelwch blaenau dur eich hun. Bydd hyn yn cael ei amlygu yn yr adran “Gwybodaeth Allweddol” ar dudalen y cwrs. Fe’ch atgoffir hefyd yn yr ebost a anfonir yn cadarnhau eich archeb. Oni fyddwch yn dod â’r rhain gyda chi, efallai na fyddwch yn gallu cymryd rhan yn rhai o weithgareddau’r cwrs.
Costau’r cwrs
Mae gan rai cyrsiau strwythur talu dwy haenen:
- Cyflogedig – yn ennill dros £18,000 y flwyddyn
- Cyflog isel/Consesiynau* – yn ennill llai na £18,000 y flwyddyn
*Consesiwn – heb fod yn gyflogedig (wedi ymddeol, yn ddi-waith neu’n fyfyriwr llawn amser). Bydd angen prawf cymhwysedd wrth gyrraedd.
Polisi Canslo ac Ad-dalu
1. Ni ellir ad-dalu ffioedd cyrsiau undydd.
2. Gallwch ganslo archeb am gwrs ar unrhyw adeg, ond:
- Ni ellir ad-dalu ffioedd cyrsiau undydd
- Ni roddir ad-daliad os byddwch yn canslo gyda llai na 8 diwrnod o rybudd.
- Ceir ad-daliad llawn am ganslo os rhoddir 8 diwrnod neu fwy o rybudd (ac eithrio cyrsiau undydd lle na ellir rhoi ad-daliad).
3. Mae CyDA’n cadw’r hawl i ganslo unrhyw gyrsiau. Bydd yr holl arian a delir yn cael ei ad-dalu’n llawn mewn achosion felly.