Cyrsiau rhifedd am ddim i oedolion

Cyrsiau rhifedd am ddim i oedolion


Home » Cyrsiau rhifedd am ddim i oedolion

A ydych chi dros 18 oed ac yn dymuno meithrin eich hyder gyda rhifedd wrth ddysgu sgiliau allweddol a fydd o fudd i’ch gyrfa yn y dyfodol?

Mae cyfres o gyrsiau wedi’u hariannu’n llawn ar gael i breswylwyr Powys sy’n dymuno meithrin eu hyder gyda rhifau yn eu bywyd dyddiol.

Bydd y cyrsiau yn archwilio rhifedd gymhwysol trwy gyfrwng sesiynau ymarferol a fydd yn ymwneud â sgiliau gwyrdd ym maes adeiladu, ynni a choetiroedd.

Lleolir y cyrsiau yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen ac fe’u cynhelir bob dydd Iau dros gyfnod o chwe wythnos.

Mae cyfraniad ar gael i dalu costau teithio. Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig.

Ariannir y prosiect hwn gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gyda chymorth Cyngor Sir Powys.

Funded by UK Government LogoPowered by Levelling Up Powys Council Logo Growing Mid Wales