Un o’n blaenoriaethau ar gyfer y blynyddoedd nesaf yw gwella amrywiaeth a chynhwysiant ar bob lefel ar draws y sefydliad.
Yn yr amser sydd ohoni rydym yn adnewyddu ein hymrwymiad i weithredu ar bedair lefel:
1. Cynyddu cyrhaeddiad a chynrychiolaeth
Byddwn yn darganfod ffyrdd o gynyddu nifer y grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli ymhlith ein holl randdeiliaid, yn cynnwys ymddiriedolwyr, staff, myfyrwyr, aelodau ac ymwelwyr.
Un ffordd y gallwn ymdrin â hyn yw defnyddio rhwydweithiau a sianeli a fydd yn ein helpu i sicrhau bod hysbysebion a hyrwyddiadau yn debygol o gael eu gweld gan gynulleidfaoedd amrywiol. Cam pwysig arall fydd adolygu geiriad hysbysebion swydd i’w gwneud yn fwy deniadol i wahanol grwpiau. Gallwn edrych ar ddarparu cyfleoedd i bobl o grwpiau a dangynrychiolir i ddarganfod mwy am CyDA trwy raglenni neu ddyddiau penodol.
Fel sefydliad sydd wedi’i leoli yng Nghymru, hoffem gynyddu’r niferoedd staff – yn benodol ar lefelau uwch – sy’n dod o’r ardal leol ac sy’n siaradwyr Cymraeg rhugl. Un ffordd o fynd i’r afael â hyn fyddai rhoi mwy o bwyslais ar hyfforddiant a datblygu gweithwyr, fel eu bod yn gallu symud ymlaen o fewn y sefydliad a chymryd swyddi uwch.
2. Sicrhau amgylchedd sy’n galluogi ac yn gynhwysol
Mae’n hanfodol ein bod yn sicrhau ein bod yn creu amgylchedd sy’n galluogi ac yn gynhwysol i bawb. Gall hyn olygu newidiadau i gynllun ffisegol – er enghraifft, ers rhai blynyddoedd mae gennym doiledau yn y adeilad a chaffi ac yn adeilad WISE, wedi’u dynodi’n “niwtral o ran rhywedd”, i ddarparu ar gyfer pobl o ryw anneuaidd. Bydd angen cadw hygyrchedd mewn cof wrth wneud datblygiadau newydd ar y safle.
Mae hyfforddi a datblygu staff yr un mor bwysig, fel bo pawb yn cael ei drin gyda pharch ac mewn ffyrdd yr hoffent gael eu trin. Byddwn yn cynnwys hyfforddiant amrywiaeth a chynhwysiant fel rhan sylfaenol o anwythiad staff newydd, ynghyd â chynnig cyrsiau gloywi parhaus i staff presennol.
3. Cynnwys perthnasol
Byddwn yn parhau i adolygu cynnwys negeseuon addysgol CyDA, boed hynny ar arddangosfeydd ar y safle, teithiau a darlithoedd i ymwelwyr, cyrsiau byrion, rhaglenni i grwpiau ysgolion neu gyrsiau i raddedigion.
Rydym am sicrhau ein bod yn cynrychioli materion sy’n berthnasol i bobl o bob rhan o gymdeithas, ac nad ydym yn gwneud rhagdybiaethau sy’n ymddangos fel petaent yn eithrio rhai pobl. Rydym yn ymwybodol iawn fod angen i negeseuon CyDA fod yn berthnasol i ystod eang o sefyllfaoedd y mae pobl yn byw a gweithio ynddynt.
4. Tynnu sylw at yr angen am gyfiawnder hinsawdd
Mae’n bwysig ein bod yn deall y cyswllt rhwng hiliaeth systemig a chyfiawnder amgylcheddol a hinsawdd er mwyn medru mynd i’r afael â cheisio atebion i newid hinsawdd.
Mae gan CyDA hanes sy’n mynd yn ôl ddegawdau o gynnwys cyfiawnder hinsawdd a thegwch byd-eang yn ei raglen addysg, drwy’r gwaith gydag ysgolion ac athrawon, yn ogystal â grwpiau hŷn – ystyriwyd bod ei weithgareddau yn y maes hwn yn arloesol ar y pryd.
Yn fwy diweddar, roedd, adroddiad CyDA yn 2017 ar Zero Carbon Britain: Making it Happen yn cynnwys adran oedd yn sôn yn benodol am y cyswllt rhwng anghydraddoldeb byd eang a newid yn yr hinsawdd.
Dros y blynyddoedd diwethaf mae Ysgol yr Amgylchedd i Raddedigion CyDA wedi bod yn addysgu mwy am y cysylltiadau rhwng newid hinsawdd, hiliaeth ac anghydraddoldeb byd-eang, ac mae hwn yn faes y byddwn yn parhau i roi pwyslais arno yn ein holl waith addysgiadol.
Pam ein bod am wneud hyn? Wel, un o’r rhesymau yw mai dyma’r peth iawn i’w wneud o safbwynt moesegol ac mae’n golygu bod ein hymrwymiad i werthfawrogi pob unigolyn a lleisiau amrywiol yn cael ei roi ar waith. Yr un mor bwysig, dyma’r unig ffordd y gall CyDA fod fwyaf effeithiol fel sefydliad. Ar un llaw, bydd mwy o amrywiaeth staff, ymddiriedolwyr, myfyrwyr ac aelodau yn dod â chyfoeth o syniadau a barn. Bydd hyn yn arwain at fwy o greadigrwydd a darlun llawnach o’r materion. Ar y llaw arall, bydd yn ein helpu i ymestyn allan ymhellach o ran ysbrydoli, hysbysu a galluogi pobl o bob cefndir i ymateb i’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth – mewn geiriau eraill – cyflawni cenhadaeth CyDA.
Byddem wrth ein boddau yn clywed gennych os ydych yn awyddus i helpu CyDA i barhau ar ei siwrnai amrywiaeth a chynhwysiant, yn enwedig os oes gennych arbenigedd, syniadau neu gysylltiadau a allai fod yn fuddiol yn eich barn chi.