Adeiladu gan ddefnyddio Pridd (AM DDIM)
Cyfle i drochi eich dwylo wrth ddysgu sut y gellir defnyddio’r ddaear dan eich traed i greu adeiladau eco-gyfeillgar.
Byddwn yn dysgu sut i gael clai gludiog a defnyddiol o’r ddaear ac yn archwilio ffyrdd o’i ddefnyddio ar gyfer briciau a strwythurau adeiladu. Am weithgarwch delfrydol!
Gwybodaeth Allweddol
- Piciwch i mewn unrhyw bryd rhwng: 11yb-1yp, 2yp-4yp
- Man cyfarfod: Holwch yn y dderbynfa ar y dydd
- Cost: Am ddim gyda’ch tocyn mynediad.