Magwch y profiad ymarferol a’r sgiliau allweddol i adeiladu tŷ bychan eich hun.
Os ydych yn bwriadu adeiladu eich cartref eich hun neu am ddysgu amrywiaeth o sgiliau adeiladu ymarferol, byddwch yn magu’r wybodaeth a’r profiad sydd eu hangen arnoch ar ein cwrs adeiladu tŷ bychan hynod o boblogaidd.
Gwybodaeth allweddol
- Hyd: pedwar diwrnod
- Amser: dechrau am 9.30yb a gorffen am 5yp ar y diwrnod olaf
- Ffioedd: £600
- Nodyn: Nid oes llety ar gael yn ystod y cwrs hwn.
- Beth sydd ei angen arnoch: gan fod hwn yn gwrs ymarferol iawn, mae angen i chi ddod ag esgidiau diogelwch ac rydym yn eich cynghori i ddod â dillad glaw
- Telerau ac Amodau
Yr hyn y byddwch chi’n ei ddysgu
Byddwch yn dysgu sut i greu tŷ bychan hardd a phwrpasol o’r dechrau i’r diwedd, gan gynnwys y strwythur ffrâm bren, y tu mewn, a systemau ynni adnewyddadwy a thoiled compost perthnasol.
Bydd Prif Saer Coed CYDA, a seren “George Clarke’s Amazing Spaces” Carwyn Lloyd Jones yn eich arwain drwy wythnos ysbrydoledig lle byddwch yn archwilio holl elfennau sylfaenol creu eich cartref bychan, gan gynnwys:
- Adeiladu llawr a waliau tŷ bychan ffrâm bren syml, sy’n mesur rhyw 6 troedfedd wrth 10 troedfedd
- Deall manteision gwahanol gynlluniau
- Gorchuddio ac inswleiddio’r waliau
- Defnyddio offer yn ddiogel
- Adeiladu gwahanol siapiau to
- Gosod ffenestri
- Cysylltu’r strwythur i drelar
- Yn cynnwys toiled compost, ynni a gwres adnewyddadwy
- Gosod plymio sylfaenol
Mae’r cwrs yn llawn syniadau ac awgrymiadau ynghyd â sgyrsiau gan arbenigwyr yn y gwahanol bynciau dan sylw a byddwch yn gadael yn teimlo’n barod i ddefnyddio’ch dawn artistig ar dŷ bychan eich hun. Dim ond pedwar diwrnod sydd gennym i wneud hyn felly fyddwch chi ddim yn adeiladu tŷ bychan o’r dechrau i’r diwedd, yn hytrach bydd gennym rai elfennau wedi’u creu’n barod er mwyn osgoi ailadrodd diangen a’ch helpu i fynd trwy holl elfennau’r gwaith adeiladau mewn da bryd.
Cyflwyniad i’ch tiwtor
Carwyn Lloyd Jones
Mae gan Carwyn dros 20 mlynedd o brofiad yn y diwydiant adeiladu ac mae’n arbenigwr mewn fframiau pren. Mae Carwyn a’i ddyluniadau wedi serennu ar “George Clarke’s Amazing Spaces” a “Cabins in the Wild”; Mae’r cwrs Adeiladu Tŷ Bychan y mae’n ei addysgu yn CYDA wedi cael sylw yn y Guardian.
Dieter Brandstätter
Mae Dieter wedi gweithio yn CYDA am y 5 mlynedd diwethaf, yn gweithio’r rheilffordd halio ac yn creu cynnyrch ar gyfer y safle. Dyluniodd ac adeiladodd beiriant a reolir gan gyfrifiadur (sy’n gallu gweithio oddi ar bŵer yr haul) a thwnnel gwynt (i’w ddefnyddio yn yr ysgol i raddedigion).
Wedi’i hyfforddi yn wreiddiol mewn Gofannu Arian a Dylunio Cynnyrch, mae ganddo ddiddordeb mewn gwerth cynaliadwy deunyddiau, a’r profiad gofodol mewn adeiladau. Mae arbenigedd Dieter mewn pren a thriniaethau pren naturiol wedi’i arwain at Yakisugi, dull traddodiadol Siapaneaidd o gynnal a chadw pren, sydd i’w weld ar sawl un o’r arwyddion o gwmpas y safle.