Adeiladu Tŷ Bychan (Dim lleoedd ar ôl)

Adeiladu Tŷ Bychan (Dim lleoedd ar ôl)


Home » Adeiladu Tŷ Bychan (Dim lleoedd ar ôl)

Magwch y profiad ymarferol a’r sgiliau allweddol i adeiladu tŷ bychan eich hun.

Os ydych yn bwriadu adeiladu eich cartref eich hun neu am ddysgu amrywiaeth o sgiliau adeiladu ymarferol, byddwch yn magu’r wybodaeth a’r profiad sydd eu hangen arnoch ar ein cwrs adeiladu tŷ bychan hynod o boblogaidd.

Gwybodaeth allweddol

  • Hyd: pedwar diwrnod
  • Amser: dechrau am 9.30am a gorffen am 5pm ar y diwrnod olaf
  • Ffioedd: £600
  • Nodyn: Nid oes llety ar gael yn ystod y cwrs hwn.
  • Beth sydd ei angen arnoch: gan fod hwn yn gwrs ymarferol iawn, mae angen i chi ddod ag esgidiau diogelwch ac rydym yn eich cynghori i ddod â dillad glaw
  • Telerau ac Amodau

Yr hyn y byddwch chi’n ei ddysgu

Byddwch yn dysgu sut i greu tŷ bychan hardd a phwrpasol o’r dechrau i’r diwedd, gan gynnwys y strwythur ffrâm bren, y tu mewn, a systemau ynni adnewyddadwy a thoiled compost perthnasol.

Bydd Prif Saer Coed CYDA, a seren “George Clarke’s Amazing Spaces” Carwyn Lloyd Jones yn eich arwain drwy wythnos ysbrydoledig lle byddwch yn archwilio holl elfennau sylfaenol creu eich cartref bychan, gan gynnwys:

  • Adeiladu llawr a waliau tŷ bychan ffrâm bren syml, sy’n mesur rhyw 6 troedfedd wrth 10 troedfedd
  • Deall manteision gwahanol gynlluniau
  • Gorchuddio ac inswleiddio’r waliau
  • Defnyddio offer yn ddiogel
  • Adeiladu gwahanol siapiau to
  • Gosod ffenestri
  • Cysylltu’r strwythur i drelar
  • Yn cynnwys toiled compost, ynni a gwres adnewyddadwy
  • Gosod plymio sylfaenol

Mae’r cwrs yn llawn syniadau ac awgrymiadau ynghyd â sgyrsiau gan arbenigwyr yn y gwahanol bynciau dan sylw a byddwch yn gadael yn teimlo’n barod i ddefnyddio’ch dawn artistig ar dŷ bychan eich hun. Dim ond pedwar diwrnod sydd gennym i wneud hyn felly fyddwch chi ddim yn adeiladu tŷ bychan o’r dechrau i’r diwedd, yn hytrach bydd gennym rai elfennau wedi’u creu’n barod er mwyn osgoi ailadrodd diangen a’ch helpu i fynd trwy holl elfennau’r gwaith adeiladau mewn da bryd.

Cyflwyniad i’ch tiwtor

Carwyn Lloyd Jones

Mae gan Carwyn dros 20 mlynedd o brofiad yn y diwydiant adeiladu ac mae’n arbenigwr mewn fframiau pren. Mae Carwyn a’i ddyluniadau wedi serennu ar “George Clarke’s Amazing Spaces” a “Cabins in the Wild”; Mae’r cwrs Adeiladu Tŷ Bychan y mae’n ei addysgu yn CYDA wedi cael sylw yn y Guardian.

Dieter Brandstätter

Mae Dieter wedi gweithio yn CYDA am y 5 mlynedd diwethaf, yn gweithio’r rheilffordd halio ac yn creu cynnyrch ar gyfer y safle. Dyluniodd ac adeiladodd beiriant a reolir gan gyfrifiadur (sy’n gallu gweithio oddi ar bŵer yr haul) a thwnnel gwynt (i’w ddefnyddio yn yr ysgol i raddedigion).

Wedi’i hyfforddi yn wreiddiol mewn Gofannu Arian a Dylunio Cynnyrch, mae ganddo ddiddordeb mewn gwerth cynaliadwy deunyddiau, a’r profiad gofodol mewn adeiladau. Mae arbenigedd Dieter mewn pren a thriniaethau pren naturiol wedi’i arwain at Yakisugi, dull traddodiadol Siapaneaidd o gynnal a chadw pren, sydd i’w weld ar sawl un o’r arwyddion o gwmpas y safle.

Searching Availability...