Cynhyrchu trydan gan ddefnyddio tyrbin gwynt wedi’i wneud â llaw.
Ymunwch â Tom Dixon o V3 Power i adeiladu eich tyrbin gwynt eich hun.
Gan fanteisio ar dros ddeng mlynedd o brofiad o addysgu pobl sut i greu tyrbinau gwynt bach, mae Tom wedi datblygu dyluniad newydd, wedi’i addasu er mwyn eich helpu i ddysgu’r sgiliau mwyaf ymarferol a damcaniaethol mewn amser byr.
Gwybodaeth allweddol
- Hyd: un diwrnod
- Amser: dechrau am 10yb a gorffen am 4:00yp
- Cost: £395
- Yn cynnwys: hyfforddiant, yr holl ddeunydd, cinio
- Beth sydd ei angen arnoch: gan fod hwn yn gwrs hynod ymarferol, bydd angen i chi ddod ag esgidiau diogelwch gyda chi.
- Telerau ac Amodau
- Rhaid bod yn 18 neu’n hŷn i fynychu ein cyrsiau.
- Am restr lawn y telerau ac amodau cliciwch yma
Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu
Byddwch yn dysgu sut i greu tyrbin gwynt a fydd yn cynhyrchu trydan gan ddefnyddio deunyddiau syml, a chan ddefnyddio amrediad o dechnegau ac offer llaw.
Byddwch yn cerfio llafn pren, yn troi coil copr, yn trin magnedau pwerus ac yn creu mowntin metel gyda’ch gilydd fel tîm.
Ar ôl dwyn y darnau ynghyd, profir y tyrbin ar dŵr byr a byddwch yn gweld eich gwaith caled yn cael ei wobrwyo wrth i’r batris gael eu gwefru yn llawn.
Trwy greu’r holl elfennau â llaw, byddwch yn meithrin hyder yn eich gallu ymarferol.
Mae amrediad y tasgau dan sylw yn caniatáu i chi gael ymdeimlad o ba sgiliau y byddai gennych chi ddiddordeb yn eu datblygu ymhellach efallai.
Byddwch yn cael ymdeimlad gwych o gyflawniad wrth i chi weld y prosiect yn datblygu o bentwr o ddeunyddiau crai i system sy’n gweithio’n llawn, ac yn cael mwy o ddealltwriaeth o’r egwyddorion gwyddonol sylfaenol dan sylw.
Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer grŵp cymunedol, grŵp o ffrindiau, fel arfer datblygu tîm, neu unrhyw un arall sy’n dymuno gwneud rhywfaint o waith ymarferol.
Cyfarfod eich Tiwtor
Mae gan Tom Dixon gefndir ym maes ffiseg ac ef yw peiriannydd mwyaf cyflawn V3. Mae wedi addysgu ar bron i 50 o gyrsiau tyrbinau gwynt ac mae wedi goruchwylio dros 30 o osodiadau.
Searching Availability...