Cyrsiau rhifedd am ddim i oedolion

Cyrsiau rhifedd am ddim i oedolion


Home » Cyrsiau rhifedd am ddim i oedolion

A ydych chi dros 18 oed ac yn dymuno meithrin eich hyder gyda rhifedd wrth ddysgu sgiliau allweddol a fydd o fudd i’ch gyrfa yn y dyfodol?

Mae cyfres o gyrsiau wedi’u hariannu’n llawn ar gael i breswylwyr Powys sy’n dymuno meithrin eu hyder gyda rhifau yn eu bywyd dyddiol.

Bydd y cyrsiau yn archwilio rhifedd gymhwysol trwy gyfrwng sesiynau ymarferol a fydd yn ymwneud â sgiliau gwyrdd ym maes adeiladu, ynni a choetiroedd.

Lleolir y cyrsiau yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen ac fe’u cynhelir bob dydd Iau dros gyfnod o chwe wythnos.

Mae cyfraniad ar gael i dalu costau teithio. Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig.

Gwybodaeth allweddol

  • Dyddiadau’r cwrs:
    • Cwrs 1 – 13 Mehefin, 20 Mehefin, 27 Mehefin, 4 Gorffennaf, 11 Gorffennaf & 18 Gorffennaf
    • Cwrs 2 – 12 Medi, 19 Medi, 26 Medi, 3 Hydref, 10 Hydref & 17 Hydref
    • Cwrs 3 – 24 Hydref, 7 Tachwedd, 14 Tachwedd, 21 Tachwedd, 28 Tachwedd & 5 Rhagfyr
  • Hyd:  bydd yn rhedeg dros chwe dydd Iau
  • Ariannir yn llawn
  • Mae’n cynnwys:  hyfforddiant, cinio bwffe, cyfraniad at gostau teithio
  • Yr hyn y bydd ei angen arnoch:  argymhellir dillad sy’n dal dŵr – anfonir rhagor o wybodaeth atoch cyn i’r cwrs gychwyn
  • Amodau a Thelerau:

Gwnewch gais am eich lle

Ariannir y prosiect hwn gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gyda chymorth Cyngor Sir Powys.

 Powys Council Logo Growing Mid Wales