Datrys Problemau Lleithder Eich Tŷ

Datrys Problemau Lleithder Eich Tŷ


Home » Datrys Problemau Lleithder Eich Tŷ

Dysgwch gan adeiladwr cadwraeth profiadol sut i fynd i’r afael â phroblemau lleithder yn eich cartref.  

Bydd y cwrs hwn yn eich helpu i adnabod yr arwyddion bod gennych broblemau â lleithder, bod ymdrechion cadwraeth y gorffennol o bosib wedi mynd o chwith, ac i archwilio’r gwahanol dechnegau a dulliau y gallwch chi eu defnyddio i leihau neu gael gwared ar y broblem. Bydd rhan o’r cwrs yn cael ei gynnal fel ‘syrjeri adeiladu’ lle byddwch yn gallu ymgynghori a derbyn cyngor ar sut i wneud eich cartref yn lle brafiach i fyw ynddo, rhatach i’w redeg a mwy cyfeillgar i’r amgylchedd.

Gwybodaeth Allweddol

  • Hyd: 2 ddiwrnod
  • Amser: dechrau am 10yb a gorffen am 4yp ar y diwrnod olaf
  • Cost: £400
  • Mae llety gyda phob pryd bwyd ar gael ar gyfer y cwrs hwn:  £97 ar gyfer ystafell wely sengl.  (Bydd y dewis hwn ar gael ar ôl i chi glicio ar “Ar gael” neu “Archebwch Nawr” isod)
  • Yn cynnwys: hyfforddiant, yr holl ddeunydd, llety a rennir gyda phob pryd bwyd (mae ystafelloedd sengl ar gael am dâl ychwanegol o £20 y pen y nos)
  • Beth sydd ei angen arnoch: gan fod hwn yn gwrs ymarferol iawn, mae angen i chi ddod ag esgidiau diogelwch ac rydym yn eich cynghori i ddod â dillad glaw
  • Telerau ac Amodau:
    – Rhaid bod yn 18 neu’n hŷn i fynychu ein cyrsiau.
    – Am restr lawn y telerau ac amodau cliciwch yma

Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu

Byddwch yn dysgu beth allwch chi ei wneud ynglŷn â lleithder yn y cartref ac yn archwilio’r technegau a’r dulliau y gallwch eu defnyddio i adfer hen dŷ neu dŷ traddodiadol. Mae’r cwrs hwn yn addas i ddechreuwyr, crefftwyr cartref neu adeiladwyr proffesiynol heb fawr o brofiad gyda thai hŷn.

Prif bynciau:

  • Sut i adnabod lleithder a datrys y problemau sy’n gysylltiedig
  • Sut a pham y ceir lleithder yn y cartref, a’r gwahanol fathau o leithder
  • Deall y materion sy’n ymwneud ag awyru, caniatáu i waliau anadlu, a’r deunyddiau a ddefnyddir mewn adeiladu/adnewyddu
  • Deall ffenestri a’u swyddogaethau; y gwahaniaethau rhwng gwydr sengl, gwydr dwbl a gwydr dwbl main – a manteision ac anfanteision pob un
  • Problemau cynnal a chadw ac atgyweirio blynyddol sy’n gysylltiedig â lleithder
  • Y pethau y dylech eu gwneud a’u hosgoi wrth adfer tŷ
  • Priodweddau a defnyddiau calch a chynnyrch calch
  • Taith i weld bythynnod sydd â phroblemau lleithder a sesiwn holi ac ateb i archwilio’r atebion
  • Syrjeri adeiladu – dewch ag unrhyw broblemau lleithder, manylion prosiectau adfer a chynlluniau cadwraeth er mwyn eu trafod a derbyn cyngor

Pam fod hyn yn bwysig?

Mae hanes cadwraeth adeiladau yn frith o enghreifftiau o driniaethau amhriodol sydd dros amser yn gallu achosi mwy o broblemau na maen nhw wedi’u datrys. Dyluniwyd y rhan fwyaf o adeiladau traddodiadol (cyn 1919) gyda waliau solet o garreg, brics neu glom, heb unrhyw bilen anhydraidd na gwahanfur lleithder.

Maen nhw’n dibynnu’n llwyr ar allu’r deunyddiau i anadlu ac ar y dyluniad, lle mae lleithder yn cael ei amsugno gan y strwythur ac mae unrhyw ormodedd o leithder yn cael ei allyrru’n gyflym gan osgoi unrhyw ddifrod neu ddadfeilio i’r adeilad. Dyma le mae nifer o ymdrechion cadwraeth wedi mynd o’i le oherwydd yn aml maent wedi defnyddio deunyddiau modern anaddas nad ydynt yn gallu anadlu (megis plastrau sment neu baent sydd ddim yn gallu anadlu).

Cyflwyniad i’ch tiwtor

Mae gan eich tiwtor Nathan Goss dros 30 mlynedd o brofiad yn y diwydiant adeiladu mewn sawl gwahanol rôl sydd wedi cynnwys: gwaith saer, arolygu adeiladau hanesyddol, rheoli prosiectau, cadwraeth ac adfer adeiladau.

Mae Nathan hefyd yn diwtor profiadol ac mae wedi addysgu cyrsiau ar ddulliau adeiladu traddodiadol, sgiliau gwaith saer traddodiadol, gwaith calch a sut i fynd ati i bennu pris am brosiect treftadaeth.

Dysgwch fwy am Nathan drwy glicio yma am ei wefan.   

Ychwanegu llety i’ch archeb

A hoffech chi aros yn CYDA dros gyfnod eich cwrs byr?  Ychwanegwch y cwrs byr i’ch cart, yna dewiswch o blith y dewisiadau a nodir.

Mae’r dewisiadau llety yn cynnwys:

  • Gwely a Brecwast y noson cyn y bydd eich cwrs yn cychwyn – £80 sengl
  • Llety a phob pryd bwyd dros gyfnod eich cwrs – £97 sengl

Os bydd gennych chi unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at courses@cat.org.uk

Searching Availability...