Ar agor ar hyn o bryd ar gyfer ymweliadau wedi’u trefnu ymlaen llaw yn unig (cyrsiau, digwyddiadau, Gwely a Brecwast, grwpiau, myfyrwyr) – darllen mwy
Diwrnod Agored i’r Gymuned

Diwrnod Agored i’r Gymuned


Home » Diwrnod Agored i’r Gymuned

Croesewch y tymor newydd gyda llu o weithgareddau tymhorol, sy’n gyfeillgar i deuluoedd.

Wastad wedi eisiau rhoi cynnig ar archwilio pyllau? Dyma’r cyfle perffaith i archwilio cynefin dyfrol ac arsylwi ar y gwahanol greaduriaid sy’n byw yno! Neu os mai garddio yw eich peth, cymerwch ran yn ein sesiynau plannu yn y gwanwyn i ddysgu mwy am y rhywogaethau planhigion sy’n egino’r adeg hon o’r flwyddyn.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael gafael ar daflen weithgareddau a ‘phecyn tracio’ eich hun pan fyddwch yn cyrraedd — sy’n cynnwys yr holl hanfodion i’ch helpu i fod yn agos at natur drwy gydol y dydd.

Cyfle i drafod cynlluniau CyDA ar gyfer y dyfodol.

Tra byddwch ar y safle, fe’ch gwahoddir i rannu eich adborth ar gynlluniau i greu profiad yr ymwelydd a chanolfan sgiliau gwyrdd o’r radd flaenaf yn y Ganolfan. Bydd sesiynau rhyngweithiol yn digwydd drwy gydol y dydd.

O brofiad yr ymwelydd a’r cynnig addysg a sgiliau presennol i’n mannau ffisegol a’n hadeiladau — rydym am gasglu cymaint o syniadau â phosibl, waeth pa mor fawr neu fach ydyn nhw, felly dewch draw i ddweud helô!

I gael gwybod mwy am ddyfodol CyDA, ewch i: cy.cat.org.uk/cynlluniau/

Gwybodaeth am y digwyddiad

  • Mynediad AM DDIM
  • Does dim angen archebu ymlaen llaw
  • 10am – 4pm
  • Bydd gweithgareddau’n cael eu cynnal drwy gydol y dydd
  • Bydd lluniaeth ar gael i’w brynu o’r caffi
  • Addas ar gyfer pob oedran
  • Rhaid i bob plentyn fod yng nghwmni oedolyn
  • Mae angen esgidiau a dillad addas ar gyfer diwrnod allan ym myd natur!

CAT staff member talking to two young children

Mae digwyddiadau ymgynghori yn rhan o raglen o weithgareddau a ariennir gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Adnewyddu Cymunedol y DU.

UK Government Logo