Diwrnod Agored yr Haf CyDA

Diwrnod Agored yr Haf CyDA


Home » Diwrnod Agored yr Haf CyDA

Ymunwch â ni am Ddiwrnod Agored yr Haf Am Ddim CyDA ar ddydd Sadwrn 2 Awst!

Yn dilyn llwyddiant ein Diwrnod Agored y Gwanwyn, rydym yn teimlo’n gyffrous i’ch croesawu’n ôl i CyDA am ddiwrnod arall a fydd yn llawn gweithgareddau ysbrydoledig i bobl o bob oed.

Bydd cyfle i archwilio yn ystod gweithdai ymarferol, a mwynhau teithiau tywys addas i deuluoedd ac arddangosiadau rhyngweithiol a fydd yn ymwneud â phopeth o adeiladu gwyrdd ac ynni adnewyddadwy i ecoleg, tyfu bwyd, a byw bywyd cynaliadwy.

Trwy gydol y dydd, byddwn yn siarad gyda chymaint o ymwelwyr ag y bo modd er mwyn clywed eich syniadau, eich adborth, a’ch persbectifau – gan helpu i siapio dyfodol CyDA, tywys ein gwaith cynllunio ar gyfer ailddatblygu, a chyfrannu at ein gwaith parhaus ar ein strategaeth.

Os ydych chi’n chwilio am ddiwrnod allan hwyliog, os ydych chi’n un o’n cefnogwr ers tro, neu os ydych chi’n rhywun sy’n chwilfrydig ac sy’n dymuno dysgu mwy am ddatrysiadau cynaliadwy, byddem wrth ein bodd yn eich gweld yno.

Cewch fwynhau bwyd blasus o gaffi llysieuol CyDA trwy gydol y dydd.

Archebwch eich tocyn ymlaen llaw isod, neu ymunwch â ni ar y dydd. Sylwer bod niferoedd y lleoedd parcio yn gyfyngedig. Os byddwch chi’n teithio yma mewn car, a fyddech gystal â chyrraedd yn gynnar i sicrhau lle.

Gwybodaeth allweddol

  • Dyddiad: Dydd Sadwrn, 2 Awst
  • Amser: 10yb tan 4yp
  • Lleoliad: Canolfan Ymwelwyr CyDA
  • Mynediad: Am ddim
  • Parcio: Am ddim
  • Bydd yn rhaid cerdded i fyny llwybr serth o faes parcio gwaelod CyDA, a fydd yn cymryd 5-10 munud. Mae lleoedd parcio i’r anabl ar gael ar ben y rhiw.

Searching Availability...

Gwely a Brecwast

Gwely a Brecwast

Arhoswch yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA) a mwynhewch olygfeydd godidog o odre Parc Cenedlaethol Eryri, dair milltir yn unig i ffwrdd o dref farchnad hanesyddol Machynlleth.

COFRESTRU AM NEGESEUON E-BOST

Gallwch gael gwybod am yr holl weithgareddau, digwyddiadau ac adnoddau ar-lein diweddaraf trwy gofrestru i gael ein negeseuon e-bost a’n dilyn ar gyfryngau cymdeithasol. Ac os hoffech gymryd rhan a chynorthwyo ein gwaith, hoffem eich croesawu i fod yn aelod o CyDA.