Garddio er mwyn Natur

Garddio er mwyn Natur


Home » Garddio er mwyn Natur

Galwad i bob garddwr sy’n dwli ar fyd natur.

Cyfle i osod sylfeini eich gwybodaeth ynghylch garddio a bywyd gwyllt, gan archwilio’r hyn y gallwch ei wneud yn eich gardd eich hun i helpu i natur ffynnu yn ystod y diwrnod hwn allan yng ngerddi CYDA, a fydd yn llawn gwybodaeth.

Bydd y diwrnod rhagarweiniol hwn yn cynnig amrywiaeth eang o gyngor ynghylch garddio ar gyfer byd natur, a bydd yn llawn gweithgareddau ymarferol a gwybodaeth er mwyn helpu i fywyd gwyllt ffynnu yn eich gardd chi gartref.

Bydd cyfle i archwilio safle CYDA a dysgu am y ffordd y mae timau o arddwyr a gwirfoddolwyr wedi trawsnewid safle diffaith yn erddi organig hardd a welir yma heddiw.
Bydd cyfle i ddysgu am yr hyn i’w ystyried wrth gynllunio eich gardd er mwyn sicrhau ei bod yn helpu bywyd gwyllt i ffynnu.
Trafodir iechyd y pridd a byddwch yn dysgu sut i ofalu amdano.

Byddwch yn dysgu popeth am blannu ar gyfer bywyd gwyllt, sut i ystyried lloches ar gyfer gwahanol rywogaethau a gwerth ffynhonnell dŵr.

Gwybodaeth allweddol

  • Hyd:  Un diwrnod
  • Amseroedd cychwyn a gorffen:  bydd yn cychwyn am 9yb ac yn gorffen am 5yp
  • Pris:  £125
  • Bydd yn cynnwys:  hyfforddiant, dau egwyl gyda lluniaeth a chinio
  • Bydd angen dillad ac esgidiau addas arnoch i dreulio diwrnod allan yng ngerddi CYDA.
  • Ni fydd gofyn eich bod wedi cael profiad garddio.
  • Amodau a Thelerau:  cliciwch yma am restr lawn o’r amodau a thelerau

Manylion y Tiwtor:

Mae Veronica wedi bod yn Geidwad Gerddi CYDA ers 2021. Gyda’i dull cyfannol o arddio, mae angerdd Veronica dros greu gofodau awyr agored bioamrywiol, ffyniannus, hygyrch i bawb, yn heintus ac mae ei chyrsiau’n llawn cyfoeth o wybodaeth am arddio tymhorol, ymarferol.

Searching Availability...