Encil Celfyddydau ac Ecoleg

Encil Celfyddydau ac Ecoleg


Home » Encil Celfyddydau ac Ecoleg

Bydd y cwrs tridiau hwn yn trochi’r cyfranogwyr mewn ystod o arferion ffilm, sain a barddoniaeth, gan ddefnyddio safle hardd a chyfoethog CAT fel ysbrydoliaeth.

Drwy ymgysylltu materol, gwrando dwfn a chrefft sylwgarwch, mi fyddwch yn profi amrywiaeth o ymarferion gan gynnwys gwneud delweddau’n uniongyrchol ar ffilm gyda phlanhigion a blodau, recordio sŵn gwrthrychau a deunyddiau, gydag amrywiaeth o ficroffonau cyswllt a hydroffonau cartref, ac ymateb i’r amgylchedd drwy fyfyrio barddonol.

Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu

Bydd y cwrs yn eich cyflwyno i amrywiaeth o ymgysylltiadau arloesol ac artistig â natur lle na fydd angen gwybodaeth flaenorol na llawer o adnoddau.

Yn ystod y penwythnos byddwch yn dysgu sut i adnabod amrywiaeth o blanhigion a blodau wrth ddarganfod eu nodweddion ffotograffig drwy roi cynnig ymarferol ar wneud ffilm.

Byddwch yn dysgu sut i greu delweddau’n uniongyrchol ar ffilm 16mm drwy ddefnyddio’r dechneg ‘ffytograffi’ di-gamera.

Mi gewch gyfle unigryw i weithio ag ystod o dechnegau a dyfeisiadau gwrando, gan ymchwilio i nodweddion sonig amrywiaeth o ddeunyddiau, gan gynnwys gwrando o safbwyntiau amgen i ddarganfod synau sydd y tu hwnt i gyrraedd clyw pobl.

Dysgwch sut i adeiladu eich microffonau cyswllt eich hun gyda deunyddiau rhad.

Gwybodaeth allweddol:

  • Hyd: tri diwrnod
  • Amser dechrau a gorffen: dechrau am 3pm ddydd Gwener 21 Gorffennaf a gorffen am 3pm ddydd Llun 24 Gorffennaf
  • Ffioedd: £350 y pen
  • Wedi’u cynnwys: tiwtora, yr holl ddeunyddiau, pob pryd bwyd mewn llety a rennir am 3 noson (mae llety sengl ar gael am gost ychwanegol o £20 y noson)
  • Dewch â’r canlynol: Darperir holl ddeunyddiau’r cwrs ond gwahoddir cyfranogwyr i ddod ag unrhyw ddeunyddiau celf o’u dewis. Argymhellir eich bod yn dod â dillad glaw.

Telerau ac Amodau: rhaid i chi fod yn 18 oed neu hŷn i fynychu ein cyrsiau. Cliciwch yma am restr gyflawn o’r telerau ac amodau.

Arweinwyr gweithdai

Mae Karel Doing yn artist annibynnol, gwneuthurwr ffilmiau ac ymchwilydd o’r Iseldiroedd a symudodd i’r Deyrnas Unedig yn 2013 i ddechrau prosiect ymchwil sy’n canolbwyntio ar ecoleg a sinema. Mae’r  prosiect hwn wedi arwain at ymwneud parhaus â phlanhigion ac emwlsiwn ffotocemegol, gan ymchwilio i’r berthynas rhwng diwylliant a natur trwy gyfrwng proses analog ac organig, arbrofi a chyd-greu.

Mae Kathy Hinde yn artist rhyngddisgyblaethol y mae ei hymarfer yn mynd i’r afael â dulliau agored a phrosesau esblygol. Trwy osodiadau, perfformiadau a phrofiadau mewn safleoedd penodol, ei nod yw meithrin cysylltiad dyfnach a mwy ymgorfforedig â rhywogaethau eraill a systemau’r ddaear. Mae Kathy yn aml yn gweithio mewn cydweithrediad ag ymarferwyr a gwyddonwyr eraill ac yn aml yn cynnwys y gynulleidfa yn y broses greadigol.

Mae Aim King  yn ecolegydd, gwneuthurwr ffilmiau, a bardd, sydd ar hyn o bryd yn gweithio ar ddoethuriaeth (PhD) drwy ymarfer ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae gwaith Aim yn rhyngddisgyblaethol yn ei hanfod ac yn canolbwyntio ar gerdded gydag afonydd ac ecoleg ehangach fel modd o ddod â meddwl anneuaidd i gyfathrebu amgylcheddol.

Mae Kim Knowles yn academydd, curadur a threfnydd digwyddiadau ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar y ffordd y mae ffilm ac ecoleg yn torri ar draws ei gilydd, yn enwedig o fewn cyd-destun aml-rywogaeth. Mae ei llyfr diweddaraf Experimental Film and Photochemical Practices (2020) yn edrych ar barhad y defnydd o ffilm 16mm mewn oes ddigidol.

 

Cefnogir gan ganolfan ymchwil Y Bydoedd a ym Mhrifysgol Aberystwyth

Searching Availability...

Searching Availability...