Gardd Cynefinoedd Bychain
Yn ystod gwyliau’r Pasg byddwn yn creu gardd fach sy’n gyfeillgar i fywyd gwyllt ac rydym angen eich help chi!
Gan ddefnyddio deunyddiau wedi’u hailgylchu, byddwn yn gwneud gardd fechan fydd yn gynhyrchiol i bobl ac yn wych ar gyfer bywyd gwyllt. Unwaith y bydd wedi ei chwblhau, bydd yr ardd fodwlar fechan yn tyfu bwyd organig ac yn cynnwys system gompostio, system arbed dŵr, pwll bychan a gwesty chwilod.
Gyda’ch help chi’r Pasg hwn, byddwn yn plannu hadau planhigion sy’n gyfeillgar i beillwyr ac yn adeiladu pwll bach!
Dewch i gael syniadau gwych y gallwch roi cynnig arnynt gartref. Gellir ailgynllunio gerddi bychain i ffitio’r rhan fwyaf o leoliadau awyr agored gan greu amrywiaeth o gynefinoedd iach ar gyfer creaduriaid bach a mawr.
Gwybodaeth Allweddol
- Dyddiadau i’w nodi: 4 & 7 Ebrill
- Amserau dechrau a gorffen: 11am – 3pm. CyDA ar agor rhwng 10am a 5pm
- Man cyfarfod: Manylion ar gael ar y dydd yn y dderbynfa
- Pris: am ddim gyda thocyn mynediad
- Rhaid bod rhieni/gwarcheidwaid gyda’r plant trwy’r amser.
Gerddi a Phlanhigion
Mae gerddi CyDA yn amrywiaeth o erddi arddangos cynhyrchiol sy’n hollol rydd o gemegau ac sy’n cael eu rheoli’n gynaliadwy.