Gweithdai Crefft Coetir

Gweithdai Crefft Coetir


Home » Gweithdai Crefft Coetir

Dewch i gyfarfod ein tîm coetir dan ein Caban Naddwr Coed newydd i roi cynnig ar amrediad o weithgareddau ymarferol cyffrous gan ddefnyddio offer coedwriaeth a chrefftau coetir traddodiadol!

Mae cael profiad ymarferol o ddefnyddio deunyddiau naturiol ac offer llaw yn ffordd hyfryd o gysylltu â byd natur a dysgu pethau newydd.

Mae’r gweithgareddau yn amrywio o ddydd i ddydd, gan ddibynnu ar y tywydd.

Gwybodaeth Allweddol

  • Piciwch i mewn unrhyw bryd rhwng: 11yb-1yp, 2yp-4yp
  • Man cyfarfod: Holwch yn y dderbynfa ar y dydd
  • Cost: Am ddim gyda’ch tocyn mynediad.