Gwelyau Cyrs a Rheoli Dŵr Gwastraff

Gwelyau Cyrs a Rheoli Dŵr Gwastraff


Home » Gwelyau Cyrs a Rheoli Dŵr Gwastraff

Systemau carthion a thrin dŵr sydd ddim ar y grid.

Os ydych yn byw neu’n gweithio mewn lleoliad anghysbell ac angen opsiynau rheoli dŵr gwastraff sy’n isel eu heffaith ac yn eco-gyfeillgar, CYDA yw’r lle i ddod am ysbrydoliaeth a chyngor. Mae ein system ddŵr a gwastraff oddi ar y prif gyflenwad yn gyfan gwbl, ac mae’r cwrs undydd hwn yn rhoi’r cyfle i chi ddysgu o’n 40 mlynedd o brofiad yn y maes hwn.

Gwybodaeth allweddol

  • Hyd: un diwrnod
  • Amser: dechrau am 10am a gorffen am 4pm
  • Cost: £125
  • Yn cynnwys: hyfforddiant, yr holl ddeunydd, cinio. Mae llety gyda phob pryd bwyd ar gael yn CYDA os hoffech aros ychydig yn hirach.
  • Beth sydd ei angen arnoch: gan fod hwn yn gwrs ymarferol iawn, bydd angen i chi ddod ag esgidiau diogelwch ac rydym yn eich cynghori i ddod â dillad glaw
  • Telerau ac Amodau
    • Rhaid bod yn 18 neu’n hŷn i fynychu ein cyrsiau.
    • Am restr lawn y telerau ac amodau cliciwch yma

Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu

Mae’r cwrs hwn yn archwilio manylion technegol, dylunio a rhoi gwelyau cyrs a systemau amgen trin dŵr gwastraff ar waith ar lefel ddomestig.

Byddwch yn dysgu am y gwahanol opsiynau ar gyfer systemau trin carthion isel eu heffaith ac am adfer maetholion, a bydd sesiwn ar ddyfeisiau arbed dŵr.

Mae CYDA oddi ar y grid yn gyfan gwbl o ran ei gyflenwad dŵr a thrin carthion, felly bydd cyfle i chi weld gwelyau cyrs a dulliau rheoli gwastraff ar waith, gydag archwiliad o’n gwahanol systemau ac esboniad o brif nodweddion y dyluniad. Byddwn hefyd yn edrych ar rai opsiynau amgen unigryw a phwrpasol.

Bydd y pynciau dan sylw yn cynnwys:

  • Triniaethau cynradd, eilradd a thrydyddol
  • Gwahanol fathau o systemau, gan gynnwys gwelyau cyrs, gwlyptiroedd adeiledig, bwâu ffosydd, acwatronnau a thrin dŵr llwyd
  • Prosesau biolegol
  • Prif agweddau dylunio a gofynion cynnal a chadw
  • Lleoliad, rheoliadau a chynllunio

Bydd mynychwyr y cwrs yn deall theori a chymhwyso ymarferol y gwahanol fathau o systemau amgen trin dŵr gwastraff yn y DU, prif nodweddion y dyluniad a’r defnydd mwyaf priodol.

Proffil y tiwtor

Mae Fin wedi graddio gyda BSc mewn Bioleg Forol a MSc mewn Ecoleg Ddynol. Mae wedi bod yn gweithio ar adnoddau dŵr a gwasanaethau ecosystemau yn CYDA ers 2011, yn addysgu ac yn datblygu cyrsiau byr, darlithoedd, teithiau a gweithdai sy’n annog pobl i gymryd rhan mewn ymholiad beirniadol o gysylltiadau dynol – gwastraff – lle.

Y tu hwnt i CYDA, mae Fin yn hwyluso cyd-ddylunio a gosod systemau glanweithdra isel eu heffaith ar gyfer cartrefi sydd ddim ar y grid, rhandiroedd, gwyliau a meysydd gwersylla yng Nghymru, yr Alban ac Ewrop. Yn fwyaf diweddar mae wedi cydweithio â Phytology, Bethnal Green ar doiled compostio hygyrch ar gyfer gwarchodfa natur; ar brosiect ymchwil Ysgol Bartlett UCL o’r enw “Pee and Poo for Food”, yn edrych ar rwystrau i gynhyrchu trefol a’r defnydd o wastraff dynol fel gwrtaith; gyda Global Gardens yng Nghaerdydd ar doiled compostio ar gyfer eu rhandir; a gyda The Clearing yn Compton Verney ar brosiect celf wedi’i leoli mewn sefyllfa o ddygymod â chwâl yr hinsawdd, gyda gweithdai ar Yfed y Dŵr a Chreu Toiled.

Searching Availability...

Searching Availability...