Gwyddor Cynhyrchu Bwyd Cynaliadwy

Gwyddor Cynhyrchu Bwyd Cynaliadwy


Home » Gwyddor Cynhyrchu Bwyd Cynaliadwy

Ymunwch ag wythnos addysgu myfyrwyr CYDA i fwrw golwg manwl ar amrywiaeth y technegau a’r dulliau tyfu er mwyn cynhyrchu bwyd cynaliadwy ac effaith y rhain ar yr amgylchedd.

Trwy gyfrwng cyfres o ddarlithoedd, trafodaethau, a gweithgareddau ymarferol, byddwch yn dysgu gyda’n myfyrwyr ôl-raddedig ar ein cwrs MSc Cynaliadwyedd mewn Darpariaeth Ynni a Rheoli’r Galw.

Byddwch yn cael profiad o astudio ar un o’n cyrsiau ôl-raddedig yn CYDA ac yn cael gwybodaeth ac yn meithrin sgiliau gwerthfawr ynghylch effeithiau gwahanol ddulliau cynhyrchu bwyd ar fioamrywiaeth a gwasanaethau ecosystem ac allyriadau carbon, law yn llaw ag astudio y gwyddor sy’n sail i’r dulliau gweithredu posibl a go iawn tuag at dyfu bwyd a magu planhigion.

Gwybodaeth allweddol

  • Hyd: pump diwrnod
  • Amser: dechrau am 9yb a gorffen am 3yp ar y diwrnod olaf
  • Cost: £700
  • Yn cynnwys: hyfforddiant, yr holl ddeunydd, llety a rennir gyda phob pryd bwyd (mae ystafelloedd sengl ar gael am dâl ychwanegol o £60 y pen)
  • Beth sydd ei angen arnoch: gan fod hwn yn gwrs ymarferol, bydd angen i chi ddod ag esgidiau diogelwch gyda chi.
  • Telerau ac Amodau:
    • Rhaid bod yn 18 oed neu’n hŷn i fynychu ein cyrsiau.
    • Am restr lawn o’r telerau ac amodau cliciwch yma

Cwrs ar gyfer pwy yw hwn?

Mae’r wythnos hon ar gyfer pobl sy’n dymuno cael blas ar astudio ar lefel ôl-raddedig yn CYDA ac sy’n dymuno meithrin gwybodaeth am gynhyrchu bwyd cynaliadwy.

Mae hyn yn cynnwys y rhai sydd â diddordeb cyffredinol mewn tyfu neu gynhyrchu bwyd, tyfwyr bwyd lleol neu gymunedol sy’n dymuno meithrin dealltwriaeth academaidd o’r gwyddor sy’n sail i dechnegau cynhyrchu bwyd cynaliadwy, a’r rhai sy’n gweithio ym maes polisi bwyd, amaethyddiaeth neu’r diwydiant bwyd.

Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu

Byddwch yn astudio effeithiau gwahanol ddulliau cynhyrchu bwyd ar allyriadau nwy tŷ gwydr, atafaelu carbon, iechyd pridd, bioamrywiaeth a gwasanaethau ecosystem.

Yn ogystal byddwch yn archwilio datblygiadau gwyddonol allweddol, dadleuon ac ansicrwydd ynghylch gwyddor cynhyrchu bwyd cynaliadwy, gan feithrin sgiliau allweddol wrth ddefnyddio data i ddadansoddi dulliau cynhyrchu bwyd a’u heffaith ar yr amgylchedd.

Mae’r pynciau yn cynnwys:

  • Effaith cynhyrchu cnydau ar allyriadau nwy tŷ gwydr, atafaelu carbon, ecoleg a chadwraeth pridd, a gwasanaethau ecosystem ehangach.
  • Gwyddor GMOs, amaethyddiaeth organig, agroecoleg, amaethyddiaeth gonfensiynol, Permaddiwylliant a dulliau a thechnolegau cynhyrchu bwyd eraill.

Sut y byddaf yn dysgu:

Trwy ddarllen ymlaen llaw a rhai darlithoedd rhagarweiniol wedi’u recordio, darlithoedd wyneb yn wyneb byw, trafodaethau, gweithgareddau grŵp a gweithgareddau ymarferol yn CYDA. Gallai’r modiwl hwn gynnwys taith maes i IBERS hefyd (Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig) ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae’r cwrs byr hwn yn rhan o’r wythnos addysgu ar gyfer y modiwl MSc mewn Ynni CO2 Sero Rhyngwladol. Dylech fod yn ymwybodol o’r ffaith y bydd rhai gweithgareddau a chynnwys ar gael i fyfyrwyr yn unig yn ystod yr wythnos efallai, a phan na fydd gweithgarwch yn briodol i’r sawl sy’n mynychu’r cwrs byr, byddwn yn ymdrechu i drefnu gweithgarwch yn ei le.

Ar 28 Mehefin 2024, byddwn yn cynnal Diwrnod Agored yr Ysgol Graddedigion hefyd, y bydd croeso i’r sawl sy’n dilyn y cwrs byr ei fynychu os ydynt yn dymuno cael gwybod mwy am ein cyrsiau ac am astudio gyda ni.

Cyfarfod eich tiwtor:

Law yn llaw ag arweinydd y modiwl a staff arbenigol yr Ysgol Graddedigion, arweinir sesiynau addysgu gan amrediad o ddarlithwyr a siaradwyr gwadd sy’n gweithio yn y sector a’r byd academaidd ar hyn o bryd, sy’n ymuno â myfyrwyr ar y safle neu trwy gyfrwng ffrydiau byw.

Ychwanegu llety i’ch archeb

A hoffech chi aros yn CYDA dros gyfnod eich cwrs byr? Ychwanegwch y cwrs byr i’ch cart, yna dewiswch o blith y dewisiadau a nodir.

Mae’r dewisiadau llety yn cynnwys:

Llety a phob pryd bwyd dros gyfnod eich cwrs – £325 sengl

Os bydd gennych chi unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at courses@cat.org.uk

Searching Availability...