Cwrdd â’r Tîm – Arddangosiad o hügelkultur
Cyfle i ddysgu’r dechneg compostio o’r Almaen a adwaenir fel hügelkultur mewn arddangosiad gyda Garddwraig CAT wrth iddi ail-botio ac ail-gompostio ein gardd gynhwysyddion.
Mae hügelkultur yn broses gompostio rad, sy’n garedig i’r amgylchedd, ac sy’n arbed dŵr a llafur i greu compost cyfoethog, dibynadwy i’ch potiau a’ch gardd.
Mae’n cynnwys defnyddio haenau o ddeunyddiau mewn potiau neu gynwysyddion fel boncyffion, canghennau, brigau, glaswellt, dail ac ati i ffurfio system gompostio fechan, sy’n cyflenwi’r holl faethynnau sydd eu hangen ar blanhigion am gyfnod hwy.
Bydd ein Parcmon Gerddi Veronica ar gael i ddangos y broses ac i ateb cwestiynau.
Galwch heibio unrhyw bryd yn ystod y sesiwn awr a hanner.
Gwybodaeth allweddol
- Amserau dechrau a gorffen: 2yp i 4yp
- Man cyfarfod: Holwch yn y dderbynfa ar y dydd
- Pris: Am ddim gyda’ch tocyn mynediad.

Garddio a Thyfu
Mae gerddi CyDA yn amrywiaeth o erddi arddangos cynhyrchiol, a reolir yn gynaliadwy heb ddefnyddio cemegau.