Llythrennedd Carbon Am Ddim i Gynghorau Cymuned Powys

Llythrennedd Carbon Am Ddim i Gynghorau Cymuned Powys


Home » Llythrennedd Carbon Am Ddim i Gynghorau Cymuned Powys

Cyfle i archwilio datrysiadau hinsawdd, llunio cynllun gweithredu ar eich cyfer chi a’ch gwaith, a sicrhau ardystiad Llythrennedd Carbon ar ein cwrs ar-lein.  Mae’r cwrs hwn ar gyfer y rhai sy’n gweithio mewn neu gyda Chynghorau Cymuned ym Mhowys yn benodol.

Bydd y cwrs ar-lein hwn, a ddatblygwyd yn benodol ar gyfer y rhai sy’n gweithio mewn neu gyda Chynghorau Cymuned ym Mhowys, yn ystyried gwyddor newid hinsawdd, effeithiau lleol a byd-eang a sut y bydd y rhain yn effeithio ar waith Cynghorau Cymuned ym Mhowys.  Gan fanteisio ar ein gwaith ymchwil Prydain Di-garbon, byddwn yn ystyried amcanion carbon isel yn y sector cyhoeddus ac yn creu cynllun gweithredu er mwyn dylanwadu ar eraill.  Caiff eich allbwn o’r cwrs hwn ei werthuso gan y Prosiect Llythrennedd Carbon er mwyn i chi sicrhau ardystiad Llythrennedd Carbon.

Beth yw Llythrennedd Carbon?  Mae’r Prosiect Llythrennedd Carbon yn ei ddisgrifio fel ‘Ymwybyddiaeth o gostau carbon ac effeithiau gweithgareddau bob dydd a’r gallu a’r cymhelliant i leihau allyriadau, ar sail unigol, cymunedol a sefydliadol.’

Gwybodaeth allweddol

  • Hyd:  tair sesiwn gyda’r nos
  • Sesiwn 1:  Nos Fercher 20 Tachwedd 2024
  • Sesiwn 2:  Nos Lun 25 Tachwedd 2024
  • Sesiwn 3:  Nos Fercher 27 Tachwedd 2024,
  • Amser:  18:00 – 20:20 bob dydd
  • Lleoliad:  ar-lein
  • Bydd hyd at ddwy awr ychwanegol o waith annibynnol at ddibenion achredu
  • Ffioedd:  am ddim ar gyfer y rhai sy’n gweithio mewn neu gyda Cynghorau Cymuned ym Mhowys
  • Mae’n cynnwys:  hyfforddiant, sesiynau holi ac ateb, deunyddiau cwrs ar-lein, achrediad y Prosiect Llythrennedd Carbon
  • Amodau a thelerau

Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu

Mae prosiect Prydain Di-garbon CYDA yn cynnig y data caled a’r hyder gofynnol er mwyn delweddu dyfodol lle’r ydym wedi ymateb i alwadau gwyddor hinsawdd.  Mae’n helpu i leihau ofn a chamddealltwriaeth, gan agor sgyrsiau newydd a chadarnhaol sy’n canolbwyntio ar ddatrysiadau.

Bydd y cwrs ar-lein hwn sydd wedi’i achredu gan y Prosiect Llythrennedd Carbon yn archwilio’r datrysiadau a gynigir gan weledigaeth pwynt terfyn Prydain Di-garbon.  Gan fanteisio ar astudiaethau achos ac enghreifftiau go iawn, byddwn yn ystyried camau ymarferol er mwyn sicrhau sero net o bersbectif lleol.

Yn ystod y cwrs, byddwch yn ymrwymo i ddau ddewis lleihau carbon;  un fel unigolyn ac un a fydd yn cynnwys grŵp o unigolion.  Rydym yn annog y rhain i fod yn weithredoedd sy’n seiliedig ar waith er mwyn cefnogi newid diwylliant carbon isel mewn cynghorau.  Caiff y gweithredoedd hyn eu gwerthuso gan y Prosiect Llythrennedd Carbon er mwyn i chi gael eich ardystiad Llythrennedd Carbon, a fydd yn eich galluogi i fynd ymlaen i hyfforddi eraill yn eich sector neu’ch maes gwaith.

Yn ystod y dydd, cynhelir sesiynau trafod a myfyrio wedi’u hamserlennu, ynghyd â sesiynau holi ac ateb, rhwydweithio ac egwyliau all-lein er mwyn cadw’r ffurf ar-lein yn braf ac yn ddiddorol.

Searching Availability...

A ydych chi’n chwilio am fwy o hyfforddiant Di-garbon?

Mae ein cyrsiau ar-lein Prydain Di-garbon:  Byw yn cynnwys amrediad o bynciau, o ynni adnewyddadwy ac effeithlonrwydd ynni, i ddietau a defnydd tir.  Dros y ddau ddiwrnod, byddwch yn cymryd rhan mewn gweithdai, trafodaethau a sesiynau myfyrio gyda chymysgedd amrywiol o fynychwyr ynghylch ysgogi gweithredu ar draws pob rhan mewn cymdeithas.”

  Powys Council Logo Growing Mid Wales