Prydain Ddi-Garbon: Llythrennedd Carbon i Gymunedau

Prydain Ddi-Garbon: Llythrennedd Carbon i Gymunedau


Home » Prydain Ddi-Garbon: Llythrennedd Carbon i Gymunedau
Zero Carbon Britain Logo

Archwiliwch atebion i’r argyfwng hinsawdd, creu cynllun gweithredu i chi a’ch cymuned, ac ennill achrediad Llythrennedd Carbon ar ein cwrs ar-lein.

Datblygwyd y cwrs ar-lein hwn yn benodol ar gyfer y rhai sy’n gweithio mewn cymunedau, a bydd yn ystyried gwyddor newid hinsawdd, effeithiau lleol a byd-eang a sut y bydd y rhain yn effeithio ar eu gwaith. Gan fanteisio ar ein gwaith ymchwil Prydain Di-garbon, byddwn yn ystyried amcanion carbon isel yn y cymunedau ac yn llunio cynllun gweithredu i ddylanwadu ar eraill. Caiff eich mewnbwn o’r cwrs hwn ei werthuso gan yr Ymddiriedolaeth Llythrennedd Carbon er mwyn i chi gael eich ardystio yn Hyddysg mewn Carbon.

Beth yw Llythrennedd Carbon? Mae’r Prosiect Llythrennedd Carbon yn ei ddisgrifio fel ‘Ymwybyddiaeth am gost ac effaith carbon gweithgareddau pob dydd a’r gallu a’r cymhelliant i leihau allyriadau ar sail unigolyn, cymuned a sefydliad.’

Gwybodaeth allweddol

  • Parhau: dau sesiwn bore
  • Diwrnod 1: Dydd Lau 30 Tachwedd, Diwrnod 2: Dydd Llun 4 Rhagfyr, 9:30 – 13:00 ar y ddau ddiwrnod
  • Lleoliad: arlein
    • Cynigir yr hyfforddiant hwn hefyd fel cwrs pwrpasol ar ddyddiad sy’n gyfleus i chi. Cysylltwch i drefnu.
  • Rhaid cwblhau hyd at ddwy awr ychwanegol o waith annibynnol i dderbyn achrediad.
  • Ffi: £95
  • Yn cynnwys: hyfforddiant, sesiynau holi ac ateb, deunydd cwrs arlein, achrediad Prosiect Llythrennedd Carbon

Telerau ac amodau

Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu

Mae prosiect Prydain Ddi-Garbon CYDA yn cynnig y data caled a’r hyder sydd eu hangen i ddychmygu dyfodol lle rydym wedi ymateb i ofynion gwyddor hinsawdd. Mae’n helpu i leihau ofn a chamddealltwriaeth a chychwyn sgyrsiau newydd cadarnhaol sy’n canolbwyntio ar atebion.

Bydd y cwrs Prosiect Lythrennedd Carbon ar-lein hwn yn archwilio’r atebion a gynigir gan weledigaeth bwynt terfyn Prydain Ddi-Garbon. Gan dynnu ar astudiaethau achos ac enghreifftiau bywyd go iawn, byddwn yn edrych ar gamau ymarferol i gyrraedd sero net o safbwynt y gymuned.

Yn ystod y cwrs byddwch yn ymrwymo i ddwy weithred leihau carbon; un fel unigolyn ac un a fydd yn dylanwadu ar grŵp o unigolion. Bydd y gweithrediadau hyn yn cael eu gwerthuso gan y Prosiect Llythrennedd Carbon er mwyn i chi gael eich achredu’n Garbon Lythrennog, a’ch galluogi i fynd ymlaen i hyfforddi eraill yn eich cymuned.

Mae’r hyfforddiant ar-lein hwn yn addas i bawb sy’n gweithio mewn cymunedau – fel unigolion neu’n rhan o grŵp, sefydliad, rhwydwaith ac ati. Yn ystod y diwrnod bydd amserlen o sesiynau trafod a myfyrio, sesiynau holi ac ateb, rhwydweithio ac egwyliau all-lein i sicrhau bod y fformat ar-lein yn ennyn diddordeb a brwdfrydedd.

Chwilio am fwy o hyfforddiant Carbon Sero?

Mae ein cyrsiau ar-lein poblogaidd Prydain Ddi-Garbon: Yn Fyw yn ymdrin ag ystod o bynciau, o ynni adnewyddadwy ac effeithlonrwydd ynni i ddeiet a defnydd tir. Dros y ddau ddiwrnod byddwch yn cymryd rhan mewn gweithdai, dadleuon a sesiynau adfyfyrio gyda chymysgedd amrywiol o fynychwyr ar sbarduno gweithredu ledled y gymdeithas.

Cyfarfod â’ch tiwtoriaid

John Anderson

Mae gan John raddau mewn cysylltiadau rhyngwladol, y gyfraith a diogelwch rhyngwladol. Mae ganddo gefndir mewn yngynghoriaeth cefnogi penderfyniadau, hyfforddi, ymchwil, hwyluso a rheoli prosiectau yn y sector preifat. Ar hyd o bryd, mae’n ymchwilio i addasu i newid hinsawdd gyda CyDA. Mae’n caru bod yn yr awyr agored ac mae’n bibydd brwd.

Amanda Smith

Amanda yw Rheolwr Hyfforddi ein tîm Prydain Di-garbon. Mae ganddi dros 20 mlynedd o brofiad  yn dysgu, arwain ysgolion a hyfforddi oedolion a gwella sefydliadol. Mae Amanda yn addysgwr cymwys, medrus a phrofiadol iawn sy’n dal statws Athrawes Cymwysedig, Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawon ac mae’n Arweinydd Addysg Arbenigol.

Cyn ymuno â Chanolfan y Dechnoleg amgen, roedd Amanda yn Brif athrawes, a bu’n gweithio hefyd mewn rôl ymgynghorol ar gyfer yr Awdurdod Addysg Lleol o 2003, gan weithio gydag ysgolion a sefydliadau eraill dan amgylchiadaol heriol i’w galluogi i ddatblygu cynlluniau gweithredu effeithiol a chyflawni newid a gwelliannau sefydliadol o ganlyniad.

 

Searching Availability...