Prydain Di-garbon: Ar-lein yn Fyw – Ehangu Gweithredu Cymunedol

Prydain Di-garbon: Ar-lein yn Fyw – Ehangu Gweithredu Cymunedol


Home » Prydain Di-garbon: Ar-lein yn Fyw – Ehangu Gweithredu Cymunedol

Sut all cymunedau gymryd y camau nesaf ar eu taith i drawsnewidiad cyfiawn a sut allwn gychwyn gweithrediad cynlluniau lleol Prydain Di-garbon?

Bydd cwrs Prydain Di-garbon newydd CyDA yn archwilio’r ffordd orau y gall cymunedau ymateb i her newid hinsawdd ac argyfyngau bioamrywiaeth yn ystod cyfnod o ansicrwydd gwleidyddol – mae’r gwyddoniaeth yn dweud bod yn rhaid i ni wneud hynny, mae’r dechnoleg yn dweud y gallwn wneud hynny, mae’n bryd i ni ddweud y byddwn yn gwneud hynny!

Gan fanteisio ar ein profiad helaeth o weithio gyda chymunedau, awdurdodau lleol ac ar ein prif waith ymchwil mewnol ar Brydain Ddi-garbon, ynghyd ag arbenigedd ein Hysgol Graddedigion yr Amgylchedd, mae tîm Prydain Di-garbon yn eich gwahodd i ymuno â ni am ddiwrnod o ddysgu a thrafodaethau rhyngweithiol, a fydd yn canolbwyntio ar y cwestiwn allweddol: beth nesaf i’ch cymuned chi?

Gwybodaeth allweddol

  • Lleoliad: arlein
  • Amser: dechrau am 9yb a gorffen am 5:00yp
  • Cost: £95
  • Yn cynnwys: hyfforddiant, sesiynau holi ac ateb, deunydd ar-lein y cwrs
  • Telerau ac Amodau
    • Rhaid bod yn 18 neu’n hŷn i fynychu ein cyrsiau.
    • Am restr lawn y telerau ac amodau cliciwch yma

Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu

Yn ystod y cwrs undydd hwn, bydd cyfranogwyr yn archwilio pynciau pwysig sy’n ymwneud â’r cwestiwn ynghylch sut y gall cymunedau gymryd y cam nesaf ar y ffordd i drawsnewidiad cyfiawn, gan ddefnyddio ymchwil CyDA ynghylch Prydain Di-garbon, a phrofiad cymunedau ar draws y wlad, a enillwyd trwy ymdrech, er mwyn cyfrannu at y gwaith o greu a datblygu cynlluniau gweithredu cymunedol.

Dewiswyd y materion a’r siaradwyr yn ofalus i gynorthwyo cymunedau i fwrw ymlaen gyda’u gweithgarwch a manteisio i’r eithaf ar eu gweithgarwch cydweithio gyda’u Hawdurdodau Lleol, ac fe’i cynlluniwyd ar gyfer aelodau mudiadau cymunedol, staff Awdurdodau Lleol a dinasyddion sydd â diddordeb yn y pwnc. Mae’r pynciau yn cynnwys:

Y Darlun Mawr: ble’r ydym ni nawr, a ble allem fod ymhen 5-10 mlynedd? Cynlluniwyd y sesiwn hon i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i gyfranogwyr am wyddor hinsawdd a bioamrywiaeth, ac ymdrechion cysylltiedig i ymateb ar lefel ryngwladol, cenedlaethol a lleol, gan gynnwys asesiad o broses COP a COP 28 yn arbennig.

Creu, gweithredu a datblygu gweledigaeth leol neu ‘gynllun Prydain Di-garbon lleol’ – a oes gan eich cymuned chi gynllun cynhwysfawr i gynorthwyo trawsnewid i Brydain Ddi-garbon, sy’n cynnwys ynni adnewyddadwy, gostyngiad yn y galw am ynni, newid defnydd tir a newid ehangach mewn ymddygiad? Yn ystod y sesiynau hyn, bydd cyfranogwyr yn clywed gan grwpiau cymunedol sydd wedi defnyddio ymchwil Prydain Di-garbon fel model a’i weithredu yn eu lleoliad nhw, gan gynnwys tir a bwyd, ynni a datrysiadau ôl-weithredol wrth fanteisio i’r eithaf ar newid ymddygiad ehangach.

Mae ffurfio neu ddatblygu grwpiau newydd dan arweiniad dinasyddion, sy’n gallu rheoli prosiectau seilwaith, gwasanaethau a rheoli tir yn anodd iawn, ac mae’r ffordd er mwyn sicrhau llwyddiant yn frith o brosiectau a adawyd, grwpiau sydd wedi chwalu ac aelodau cymunedol sydd wedi llwyr ymlâdd. Beth allwn ei ddysgu o’r llwyddiannau a’r methiannau, a sut allai cymunedau gydweithio yn y ffordd orau gydag Awdurdodau Lleol? Bydd y sesiynau hyn yn rhannu’r rysáit ar gyfer sicrhau llwyddiant, gan gyflwyno cysyniadau allweddol sy’n angenrheidiol er mwyn ehangu grymuso cymunedol wrth drawsnewid i fod yn gymunedau di-garbon.

Y camau nesaf – Bydd y sesiwn hon yn dwyn ynghyd yr holl elfennau a welwyd yn ystod hyfforddiant y dydd, gan ganiatáu i gyfranogwyr lunio camau nesaf go iawn ar daith eu cymuned tuag at gymdeithas ddi-garbon gyfiawn ac adfywiol.
Bydd natur fyw a rhyngweithiol y cwrs hwn yn cynnig profiad dysgu ar-lein cyfoethog. I fanteisio i’r eithaf ar y cwrs, awgrymwn eich bod yn:

Lawrlwytho Prydain Di-garbon; Ymateb i’r argyfwng hinsawdd, a darllen (o leiaf) y crynodeb gweithredol 8 tudalen ac archwilio penodau sy’n berthnasol i’ch meysydd gwaith / arbenigedd. Nodwch y prif gwestiynau, y myfyrdodau a’r syniadau ar gyfer symud ymlaen.

Cyfarfod â’ch tiwtoriaid

Sonya Bedford

Graddiodd Sonya o gwrs MSc CyDA mewn ynni adnewyddadwy yn 2018 ac ar hyn o bryd, mae’n Bennaeth Ynni Stephens Scown LLP.  Mae Sonya yn arwain tîm o gyfreithwyr sy’n arbenigo mewn polisi a chyfraith ynni.  Mae hi’n cynghori’r diwydiant am y gofynion cyfreithiol ar gyfer datblygiadau ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr, gan gynnwys materion sy’n ymwneud â’r grid, seilwaith polisi, trwyddedu a chyflenwi.  Dyfarnwyd MBE iddi am ei gwasanaethau i ynni cymunedol, ynghyd â nifer o wobrau amgylcheddol eraill.

Yn 2020, penodwyd Sonya i Fwrdd ymddiriedolwyr CyDA.  Mae hi’n eistedd ar fwrdd pum grŵp ynni cymunedol hefyd, ac mae’n un o sylfaenwyr grŵp arloesol ac uchelgeisiol Wedmore Di-garbon.

Magda Petford

Mae Magda Petford yn Gyd-Arweinydd Trawsnewid Cymdogaethau CIVIC SQUARE, gan weithio i greu cymdogaethau adeiledig cydnerth yn Birmingham a thu hwnt trwy gyfrwng cynnull creadigol a seilwaith dysgu sy’n cynorthwyo cymunedau i symud at ddyfodol lle y gall pobl a’r blaned ffynnu gyda’i gilydd. Mae Magda yn ddylunydd/darlunydd sy’n teimlo’n angerddol am greu arteffactau gweledol sy’n dwyn ymdeimlad o lawenydd a gobaith i gysyniadau cymhleth. Yn ogystal, mae’n hoff iawn o archwilio allan yn yr awyr agored ac mae’n cael cysur yn y mannau gwyrdd y gallwn fanteisio arnynt yma yn y DU.

John Anderson

Mae gan John raddau mewn cysylltiadau rhyngwladol, y gyfraith a diogelwch rhyngwladol. Mae ganddo gefndir mewn yngynghoriaeth cefnogi penderfyniadau, hyfforddi, ymchwil, hwyluso a rheoli prosiectau yn y sector preifat. Ar hyd o bryd, mae’n ymchwilio i addasu i newid hinsawdd gyda CyDA. Mae’n caru bod yn yr awyr agored ac mae’n bibydd brwd.

Amanda Smith

Amanda yw Rheolwr Hyfforddi ein tîm Prydain Di-garbon. Mae ganddi dros 20 mlynedd o brofiad  yn dysgu, arwain ysgolion a hyfforddi oedolion a gwella sefydliadol. Mae Amanda yn addysgwr cymwys, medrus a phrofiadol iawn sy’n dal statws Athrawes Cymwysedig, Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawon ac mae’n Arweinydd Addysg Arbenigol.

Cyn ymuno â Chanolfan y Dechnoleg amgen, roedd Amanda yn Brif athrawes, a bu’n gweithio hefyd mewn rôl ymgynghorol ar gyfer yr Awdurdod Addysg Lleol o 2003, gan weithio gydag ysgolion a sefydliadau eraill dan amgylchiadaol heriol i’w galluogi i ddatblygu cynlluniau gweithredu effeithiol a chyflawni newid a gwelliannau sefydliadol o ganlyniad.

 

Searching Availability...