Prydain Di-garbon – Yn fyw yn CDA – Cynyddu Gweithredu Cymunedol yn ystod yr Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol

Prydain Di-garbon – Yn fyw yn CDA – Cynyddu Gweithredu Cymunedol yn ystod yr Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol


Home » Prydain Di-garbon – Yn fyw yn CDA – Cynyddu Gweithredu Cymunedol yn ystod yr Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol
Zero Carbon Britain Logo

Sut all cymunedau gymryd y camau nesaf ar eu taith tuag at newid cyfiawn, gan ymgysylltu â’r gweithgarwch pontio ehangach mewn ffordd effeithiol, a chychwyn ar weithrediad cynlluniau Di-garbon lleol Prydain?

Gan barhau gyda’n thema ynghylch ‘Cynyddu Gweithredu Cymunedol’, bydd Tîm Prydain Di-garbon yn cynnal digwyddiad dau ddiwrnod wyneb yn wyneb yn CDA, lle y gall cyfranogwyr ddysgu am y ffordd orau o ymgysylltu â’r broses newid ehangach o’u cwmpas, clywed gan grwpiau cymunedol sy’n gweithredu mewn ffordd lwyddiannus, dysgu wrth ei gilydd, rhwydweithio, a mwynhau rhaglen o sesiynau ar draws safle CDA.

Gan fanteisio ar ein profiad helaeth o weithio gyda chymunedau, awdurdodau lleol, ac ar ein prif waith ymchwil mewnol ynghylch Prydain Di-garbon, law yn llaw ag arbenigedd ein Hysgol Graddedigion yr Amgylchedd, mae tîm Prydain Di-garbon yn eich gwahodd i ymuno â ni am benwythnos o ddysgu, trafodaethau a rhwydweithio a fydd yn canolbwyntio ar y cwestiwn allweddol: beth nesaf ar gyfer eich cymuned?

Mae cwrs byr Prydain Di-garbon yn ddelfrydol i addysgwyr, llunwyr polisi, ymgyrchwyr, ac unrhyw un sy’n weithgar yn eu cymuned leol ac sy’n dymuno deall sut y gallai’r DU fynd i’r afael â her yr hinsawdd.

Archebwch nawr

Gwybodaeth allweddol

  • Digwyddiad a fydd ar ffurf penwythnos yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen ym Machynlleth.
  • Hyd: dau ddiwrnod
  • Dyddiadau nesaf: 9 – 10 Mawrth 2024
  • Amseroedd cychwyn a gorffen: bydd y cwrs yn cychwyn ar ddydd Sadwrn 9 Mawrth am 10am ac yn gorffen am 4pm ar ddydd Sul 10 Mawrth.
  • Ffioedd: £195
  • Mae cyfraddau consesiynol o £155 ar gael ar gyfer y rhai nad ydynt yn gallu fforddio’r ffi lawn efallai.
  • Arlwyo: Mae pris y tocyn yn cynnwys cyfnodau egwyl a chinio yn ystod y ddau ddiwrnod a swper ar nos Sadwrn 9 Mawrth. Gellir archebu pryd gyda’r hwyr a llety Gwely a Brecwast ar gyfer nos Wener 8 Mawrth pan fyddwch yn prynu eich cwrs.

Telerau ac amodau

Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu

Yn ystod y digwyddiad hwn, bydd cyfranogwyr yn archwilio pynciau pwysig sy’n ymwneud â’r cwestiwn ynghylch sut y gall cymunedau gymryd y cam nesaf ar y ffordd i bontio cyfiawn ac ymgysylltu’n well gyda’r broses bontio ehangach o’u cwmpas.  Byddwn yn manteisio ar ymchwil Prydain Di-garbon CDA a phrofiad cymunedau a enillwyd drwy ymdrech ar draws y wlad.

Y Darlun Mawr:  ble ydym ni nawr, a ble y gallem fod ymhen 5-10 mlynedd?

Cynlluniwyd y sesiwn hon i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i gyfranogwyr am wyddor bioamrywiaeth a’r hinsawdd sy’n esblygu o hyd, ynghyd ag ymdrechion cysylltiedig i ymateb ar lefel ryngwladol, cenedlaethol a lleol, gan gynnwys asesiad o broses COP a COP28 yn arbennig.

Ymchwil Prydain Di-garbon – dros y 30 mlynedd nesaf, bydd newidiadau radical mewn cymdeithas wrth i ni geisio ymateb i’r argyfyngau hinsawdd ac ecolegol, a gallwn gymryd sawl llwybr gwahanol.  Mae ymchwil Prydain Di-garbon CDA yn cynnig gweledigaeth ar gyfer y DU a sut y gallwn fanteisio ar y cyfnod hwn o newid yn y ffordd orau er mwyn manteisio i’r eithaf ar y buddion i ni gyd.  Yn ystod y sesiwn hon, byddwn yn archwilio’r gwaith ymchwil hwn, gan roi sylw i’r cwestiynau hanfodol hyn:  Sut allwn ddarparu cyflenwad ynni dibynadwy i’r DU trwy gyfrwng ffynonellau ynni adnewyddadwy yn llwyr a chyflenwad wrth gefn carbon niwtral hyblyg heb danwydd ffosil, pŵer niwclear, neu gamblo ar addewid technoleg yn y dyfodol?  Sut allwn dyfu mwyafrif helaeth y bwyd y mae ei angen arnom ar gyfer diet carbon isel, iach, a rheoli ein tir er mwyn dal carbon, meithrin bioamrywiaeth a chynyddu iechyd a chydnerthedd ein ecosystemau?  Sut allwn ddarparu ffordd o fyw modern, creu cyflogaeth, gwella ein lles, a sicrhau bod y dyfodol y byddwn yn ei adael i’n plant ac i genedlaethau i ddod yn ddiogel ac yn gynaliadwy?

Creu, gweithredu a datblygu gweledigaeth leol neu ‘gynllun Prydain Di-garbon lleol’ – a oes gan eich cymuned chi gynllun cynhwysfawr i gynorthwyo pontio i Brydain Di-garbon, sy’n cynnwys ynni adnewyddadwy, lleihau’r galw am ynni, newid defnydd tir a newid ehangach mewn ymddygiad?  Yn ystod y sesiynau hyn, bydd cyfranogwyr yn clywed gan grwpiau cymunedol sydd wedi cymryd ymchwil Prydain Di-garbon fel model a’i weithredu yn eu lleoliad, gan gynnwys tir a bwyd, ynni a datrysiadau ôl-osod wrth fanteisio i’r eithaf ar newid ymddygiad ehangach.

Ymgysylltu â’r broses bontio ehangach:  sut all cymunedau ymgysylltu â’r broses bontio ehangach o’u cwmpas ar lefel leol, rhanbarthol, datganoledig a chenedlaethol.  Beth sydd gennym i’w ddysgu o’r llwyddiannau a’r methiannau o gwmpas y wlad, a sut y gallai cymunedau gydweithio yn y ffordd orau gyda chynghorau lleol i ddatgloi gweithredu effeithiol?  Bydd y sesiynau hyn yn rhannu rysáit llwyddiant ac yn cyflwyno cysyniadau allweddol sy’n angenrheidiol er mwyn cynyddu grymuso cymunedol wrth bontio i gymunedau di-garbon.

Y camau nesaf – Bydd y sesiwn hon yn dwyn ynghyd holl elfennau hyfforddiant y dydd, gan ganiatáu i gyfranogwyr lunio camau nesaf go iawn ar daith eu cymuned i gymdeithas gyfiawn, atgynhyrchiol, ddi-garbon.

Archebwch nawr

Eich tiwtoriaid

Rob Hopkins yw cyd-sylfaenydd Rhwydwaith Pontio a Thref Drawsnewid Totnes, ac mae’n awdur sawl llyfr gan gynnwys ‘The Transition Handbook‘ ac yn fwyaf diweddar, ‘From What Is to What If: unleashing the power of imagination to create the future we want’. Mae’n Gymrawd Ashoka, mae wedi siarad yn nigwyddiad TED Global ac mewn sawl digwyddiad TEDx, ac mae wedi ymddangos yn y ffenomenon ffilm Ffrengig, ‘Demain‘. Mae ganddo Ddoethuriaeth o Brifysgol Plymouth, yn ogystal â 2 Honoris Causas, ac mae’n Gyfarwyddwr Cymdeithas Datblygu Cymunedol Totnes. Mae’n cyflwyno podlediad ‘From What If to What Next‘. Ym mis Tachwedd 2022, fe’i wnaethpwyd yn Ddinesydd Anrhydeddus Liège yng Ngwlad Belg gan Faer y ddinas. Gallwch weld ei wefan yma.

Mae Paul Allen yn gydlynydd prosiect ar gyfer Prydain Di-garbon. Mae wedi bod yn aelod o Gyngor Cynghori Cymru ar Wyddoniaeth (2010), yn aelod o fwrdd y Fforwm Rhyngwladol dros Ynni Cynaliadwy (2008) ac yn Gomisiynydd Newid Hinsawdd Cymru (2007). Mae ganddo radd Anrhydedd mewn Peirianneg Electroneg a Thrydanol ac mae wedi bod yn CDA er 1988.

Graddiodd Sonya Bedford o gwrs MSc mewn ynni adnewyddadwy CDA yn 2018 ac mae’n Bennaeth Ynni yn Stephens Scown LLP ar hyn o bryd. Mae Sonya yn arwain tîm o gyfreithwyr sy’n arbenigo mewn cyfraith a pholisi ynni. Mae hi’n cynghori’r diwydiant am y gofynion cyfreithiol ar gyfer datblygiadau ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr, gan gynnwys y grid, seilwaith, polisi, trwyddedu a materion sy’n ymwneud â’r cyflenwad. Dyfarnwyd MBE iddi am wasanaethau i ynni cymunedol, ynghyd â nifer o wobrau amgylcheddol eraill.

Yn 2020, penodwyd Sonya i Fwrdd ymddiriedolwyr CDA. Mae hi hefyd yn eistedd ar fwrdd pum grŵp ynni cymunedol ac mae’n un o sylfaenwyr grŵp arloesol ac uchelgeisiol Wedmore Di-garbon.

Mae Magda Petford yn Gyd-arweinydd Pontio Cymdogaeth yn CIVIC SQUARE, gan weithio i feithrin cymdogaethau cydnerth yn Birmingham a thu hwnt trwy gyfrwng gweithgarwch cynnull creadigol a seilwaith dysgu sy’n cynorthwyo cymunedau i symud tuag at ddyfodol lle y gall pobl a’r blaned ffynnu gyda’i gilydd. Mae Magda yn ddylunydd/darlunydd sy’n teimlo’n angerddol am greu arteffactau sy’n dwyn ymdeimlad o lawenydd a gobaith i gysyniadau cymhleth. Mae hi hefyd wrth ei bodd yn archwilio yn yr awyr agored ac mae’n cael cysur yn y mannau gwyrdd y gallwn fanteisio arnynt yma yn y DU.

Amanda Smith yw’r Pennaeth Dysgu ac Addysg yn CDA. Mae ganddi dros 20 mlynedd o brofiad o addysgu, arwain ysgolion, hyfforddi oedolion a gwella sefydliadau. Mae Amanda yn addysgwr profiadol, galluog a hynod o gymwys, ac mae wedi sicrhau statws Athro Cymwys, y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol i Benaethiaid ac Arweinydd Addysg Arbenigol.

Cyn ymuno â Chanolfan y Dechnoleg Amgen, roedd Amanda yn Bennaeth, a bu hefyd yn cyflawni rôl cynghori ar gyfer yr Awdurdod Addysg Lleol o 2003, gan weithio gydag ysgolion a sefydliadau eraill yr oeddent mewn amgylchiadau heriol er mwyn eu galluogi i ddatblygu cynlluniau gweithredu effeithiol a dwyn gwelliant a newid sefydliadol o ganlyniad.

Mae gan John Anderson raddau mewn cysylltiadau rhyngwladol, y gyfraith a diogelwch rhyngwladol. Mae ei gefndir ym maes ymgynghori a chynnig cymorth gyda phenderfyniadau, hyfforddiant, ymchwil, hwyluso a rheoli prosiectau yn y sector preifat. Mae wedi bod yn arwain datblygiad a darpariaeth sesiynau hyfforddiant ar-lein ZCB ar gyfer awdurdodau lleol a grwpiau cymunedol dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac mae’n ymchwilio i addasu i newid hinsawdd gyda CDA ar hyn o bryd.

Ychwanegu llety i’ch archeb

A hoffech chi aros yn CYDA dros gyfnod eich cwrs byr? Ychwanegwch y cwrs byr i’ch cart, yna dewiswch o blith y dewisiadau a nodir.

Mae’r dewisiadau llety yn cynnwys:

Gwely a Brecwast y noson cyn y bydd eich cwrs yn cychwyn – £70 sengl
Llety a phob pryd bwyd dros gyfnod eich cwrs – £70 sengl

Os bydd gennych chi unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at courses@cat.org.uk

Searching Availability...