Rheoli Coetiroedd yn Gynaliadwy

Rheoli Coetiroedd yn Gynaliadwy


Home » Rheoli Coetiroedd yn Gynaliadwy

Y theori a’r ochr ymarferol o reoli coetiroedd mewn ffordd sydd yn fuddiol i bobl a bywyd gwyllt.

Enillydd Gwobrau Coetir am y Cwrs Coetir Gorau yn 2017. Mae’r cwrs pum diwrnod tra ymarferol hwn yn mynd â chi allan i’r goedwig i ddysgu sgiliau a thechnegau rheoli coetiroedd yn gynaliadwy.

Enillydd Gwobrau Coetir am y Cwrs Coetir Gorau yn 2017.

Gwybodaeth allweddol

  • Parhau: pum diwrnod
  • Dyddiadau nesaf: Dydd Llun 24  – Dydd Gwener 28 Mawrth 2024
  • Amserau cychwyn a gorffen: cychwyn am 2pm a gorffen am 2pm ar y diwrnod olaf
  • Ffi: £650 gan gynnwys cinio, dysgu a’r holl ddeunyddiau. Achrediad AIM (OCN yn flaenorol) opsiynol: £100 (Mae’r opsiwn yma ar gael wrth archebu)
  • Mae llety bwrdd llawn ar gael ar gyfer y cwrs hwn: £456 ar gyfer ystafell wely sengl. (Bydd yr opsiwn hwn ar gael unwaith y byddwch yn clicio “Ar gael” neu “Archebwch Nawr” isod
  • Yn cynnwys: hyfforddiant, yr holl ddeunyddiau, llety a phob pryd bwyd
  • Beth sydd ei angen arnoch: gan fod hwn yn gwrs tra ymarferol, mae angen esgidiau diogelwch ac argymhellir dillad gwrth-ddŵr
  • Telerau ac Amodau

Beth fyddwch yn ei ddysgu

Byddwch yn dysgu sut i wneud y mwyaf o’n hadnoddau naturiol ar y cwrs tra ymarferol hwn. Cewch drosolwg cynhwysfawr o sut i reoli coetiroedd yn gynaliadwy, gan edrych ar gadwraeth bioamrywiaeth a sgiliau rheoli coetir.

Mae’r cwrs hwn yn ymdrin ag agweddau ymarferol a damcaniaethol rheoli coedwig fechan, a byddwch yn treulio’r rhan fwyaf o’ch amser yng nghoetir hardd CyDA, Coed Gwern, sy’n cael ei reoli’n gynaliadwy.

Mae’r pynciau a drafodir yn cynnwys:

  • Pwysigrwydd cynaliadwyedd wrth reoli coetir.
  • Technegau ar gyfer adnabod gwahanol fathau o goetir, asesu a monitro bywyd gwyllt a helpu i hyrwyddo bioamrywiaeth.
  • Sut i brosesu pren, gan gynnwys mesur maint a chyfaint pren yn ogystal â defnyddio dulliau echdynnu, pentyrru, bwndelu, torri, hollti a thrawsnewid priodol.
  • Agweddau ariannol, gan gynnwys asesu gwerth coetiroedd ac ychwanegu at eu gwerth trwy gyflwyno crefftau a chynnyrch coetir. Yn benodol, byddwn yn edrych ar hollti, plethu a thurnio, yn ogystal â golosg, tanwydd pren a chynhyrchu deunyddiau pren.
  • Materion cyfreithiol, gan gynnwys deddfau gwarchod coetiroedd a bywyd gwyllt, trwyddedau cwympo coed a chytundebau rheoli.
  • Gwerth cefnogaeth gymunedol leol a phwysigrwydd mynediad a chyfranogiad cymunedol, gan ganolbwyntio ar weithgareddau coetir, cysylltiadau â diwylliant lleol a dulliau o godi ymwybyddiaeth a chyfranogiad.
  • Goblygiadau iechyd a diogelwch, gan gynnwys canllawiau ar gynnal asesiadau risg.

Mae’r cwrs hwn yn berffaith i chi os ydych eisoes yn rheoli coetir neu’n bwriadu rheoli coetir ac yn dymuno dysgu sut i ychwanegu gwerth o safbwynt cymdeithasol, ariannol ac ecolegol.

Erbyn diwedd y cwrs bydd gennych y sylfeini i fynd ati yn hyderus i ymdrin â phob agwedd o reoli eich coetir eich hun.

Mae’r cwrs hwn yn cynnwys yr opsiwn o achredu eich dysgu gyda AIM (y Rhwydwaith Coleg Agored yn flaenorol) os ydych yn cwblhau’r gwaith cwrs ychwanegol.

Y gost o wneud hyn bydd £90 a byddwn angen gwybod o leiaf 30 diwrnod o flaenllaw os yr hoffech wneud hyn. Ni allwn eich cofrestru ar gyfer cymhwyster AIM unwaith mae’r cwrs ar ddechrau. Mae’n ofynnol i chi e-bostio courses@cat.org.uk cyn cyntaf a phosib i gofrestru a thalu’r ffi.

Cyfarfod â’ch tiwtor

Y prif diwtor ar gyfer y cwrs hwn yw Rob Goodsell.

Mae Rob wedi bod yn gweithio i CyDA ers un mlynedd ar ddeg. Ar hyn o bryd mae’n ymwneud â rheoli pedwar coetir gwahanol eu natur gan ddefnyddio egwyddorion rheoli cynaliadwy a chanolbwyntio ar y berthynas rhwng cadwraeth, gwydnwch, rhyngweithio a gwirioneddau ariannol.

Ychwanegu llety i’ch archeb

A hoffech chi aros yn CYDA dros gyfnod eich cwrs byr? Ychwanegwch y cwrs byr i’ch cart, yna dewiswch o blith y dewisiadau a nodir.

Mae’r dewisiadau llety yn cynnwys:

Gwely a Brecwast y noson cyn y bydd eich cwrs yn cychwyn – £80 sengl
Llety a phob pryd bwyd dros gyfnod eich cwrs – £456 sengl

Os bydd gennych chi unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at courses@cat.org.uk

Searching Availability...