Rheoli Coetiroedd yn Gynaliadwy (Wedi gwerthu allan)

Rheoli Coetiroedd yn Gynaliadwy (Wedi gwerthu allan)


Home » Rheoli Coetiroedd yn Gynaliadwy (Wedi gwerthu allan)

Y theori a’r ochr ymarferol o reoli coetiroedd mewn ffordd sydd yn fuddiol i bobl a bywyd gwyllt.

Enillydd Gwobrau Coetir am y Cwrs Coetir Gorau yn 2017. Mae’r cwrs pum diwrnod tra ymarferol hwn yn mynd â chi allan i’r goedwig i ddysgu sgiliau a thechnegau rheoli coetiroedd yn gynaliadwy.

Gwybodaeth allweddol

  • Parhau: pum diwrnod
  • Dyddiadau nesaf: Dydd Llun 19 Chwefror – Dydd Gwener 23 Chwefror 2024
  • Amserau cychwyn a gorffen: cychwyn am 2pm a gorffen am 2pm ar y diwrnod olaf
  • Ffi: cyflogedig £650; cyflog isel / consesiwn £600. Achrediad OCN opsiynol: £90.
  • Yn cynnwys: hyfforddiant, yr holl ddeunyddiau, llety a phob pryd bwyd
  • Beth sydd ei angen arnoch: gan fod hwn yn gwrs tra ymarferol, mae angen esgidiau diogelwch ac argymhellir dillad gwrth-ddŵr

Beth fyddwch yn ei ddysgu

Byddwch yn dysgu sut i wneud y mwyaf o’n hadnoddau naturiol ar y cwrs tra ymarferol hwn. Cewch drosolwg cynhwysfawr o sut i reoli coetiroedd yn gynaliadwy, gan edrych ar gadwraeth bioamrywiaeth a sgiliau rheoli coetir.

Mae’r cwrs hwn yn ymdrin ag agweddau ymarferol a damcaniaethol rheoli coedwig fechan, a byddwch yn treulio’r rhan fwyaf o’ch amser yng nghoetir hardd CyDA, Coed Gwern, sy’n cael ei reoli’n gynaliadwy.

Mae’r pynciau a drafodir yn cynnwys:

  • Pwysigrwydd cynaliadwyedd wrth reoli coetir.
  • Technegau ar gyfer adnabod gwahanol fathau o goetir, asesu a monitro bywyd gwyllt a helpu i hyrwyddo bioamrywiaeth.
  • Sut i brosesu pren, gan gynnwys mesur maint a chyfaint pren yn ogystal â defnyddio dulliau echdynnu, pentyrru, bwndelu, torri, hollti a thrawsnewid priodol.
  • Agweddau ariannol, gan gynnwys asesu gwerth coetiroedd ac ychwanegu at eu gwerth trwy gyflwyno crefftau a chynnyrch coetir. Yn benodol, byddwn yn edrych ar hollti, plethu a thurnio, yn ogystal â golosg, tanwydd pren a chynhyrchu deunyddiau pren.
  • Materion cyfreithiol, gan gynnwys deddfau gwarchod coetiroedd a bywyd gwyllt, trwyddedau cwympo coed a chytundebau rheoli.
  • Gwerth cefnogaeth gymunedol leol a phwysigrwydd mynediad a chyfranogiad cymunedol, gan ganolbwyntio ar weithgareddau coetir, cysylltiadau â diwylliant lleol a dulliau o godi ymwybyddiaeth a chyfranogiad.
  • Goblygiadau iechyd a diogelwch, gan gynnwys canllawiau ar gynnal asesiadau risg.

Mae’r cwrs hwn yn berffaith i chi os ydych eisoes yn rheoli coetir neu’n bwriadu rheoli coetir ac yn dymuno dysgu sut i ychwanegu gwerth o safbwynt cymdeithasol, ariannol ac ecolegol.

Erbyn diwedd y cwrs bydd gennych y sylfeini i fynd ati yn hyderus i ymdrin â phob agwedd o reoli eich coetir eich hun.

Mae’r cwrs hwn yn cynnwys yr opsiwn o gael achrediad Lefel 3 gan y Rhwydwaith Coleg Agored drwy gwblhau gwaith cwrs ychwanegol.

Cyfarfod â’ch tiwtor

Y prif diwtor ar gyfer y cwrs hwn yw Rob Goodsell.

Mae Rob wedi bod yn gweithio i CyDA ers un mlynedd ar ddeg. Ar hyn o bryd mae’n ymwneud â rheoli pedwar coetir gwahanol eu natur gan ddefnyddio egwyddorion rheoli cynaliadwy a chanolbwyntio ar y berthynas rhwng cadwraeth, gwydnwch, rhyngweithio a gwirioneddau ariannol.

Searching Availability...

Searching Availability...