Sgiliau Gwyrdd ar gyfer y Dyfodol: Diwrnod Profiad a Ariannir yn Llawn yn CYDA

Sgiliau Gwyrdd ar gyfer y Dyfodol: Diwrnod Profiad a Ariannir yn Llawn yn CYDA


Home » Sgiliau Gwyrdd ar gyfer y Dyfodol: Diwrnod Profiad a Ariannir yn Llawn yn CYDA

Diwrnod profiadau sgiliau gwyrdd wedi’i ariannu’n llawn ar gyfer pobl ifanc 16-18 oed yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen.

Diwrnod ymwybyddiaeth sgiliau ar gyfer pobl ifanc ym Mhowys. Bydd cyfranogwyr yn cael profiad ymarferol ym maes adeiladu cynaliadwy, ynni adnewyddadwy, garddwriaeth ac ecoleg.

Bydd myfyrwyr yn cyfarfod cyflogwyr a chyflogeion sy’n gweithio mewn diwydiannau gwyrdd ac yn cael archwilio llwybrau gyrfa.

Gwybodaeth allweddol

  • Hyd:  Un diwrnod
  • Dyddiad:  5 Medi
  • Amser cychwyn a gorffen:  11am – 3pm
  • Ffi:  Digwyddiad a ariannir yn llawn, gan gynnwys trafnidiaeth i’r safle mewn bws
  • Darparir cinio a lluniaeth

Cofrestrwch eich diddordeb trwy gysylltu ag education@cat.org.uk

Gwnewch gais am eich lle

Ariannir y prosiect hwn gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gyda chymorth Cyngor Sir Powys.

 Powys Council Logo Growing Mid Wales