Taith Adar y Coetir (AM DDIM)
Ymunwch â cheidwad y coetir ar ei arolwg adar ben bore ar hyd Llwybr y Chwarel neu drwy Goed Canol CyDA.
Mae’r gweithgaredd hwn wedi’i anelu at unrhyw un a hoffai ddysgu mwy am adnabod adar, eu hecoleg, a’u hiaith gyfareddol.
Croesawir pob lefel o sgiliau!
Os oes gennych ysbienddrych, dewch â nhw gyda chi.
Os oes gennych unrhyw anghenion yn ymwneud â symudedd rhowch wybod i’r tywysydd ar y dechrau fel y gellir arwain y daith ar hyd llwybr hygyrch a gwastad Coed Canol sydd wedi’i leoli yng nghanol y ganolfan ymwelwyr.
Gwybodaeth allweddol
- Amserau dechrau a gorffen: 10:30yb i 12:30yp
- Man cyfarfod: Holwch yn y dderbynfa ar y dydd
- Pris: Am ddim gyda’ch tocyn mynediad