Taith Fioamrywiaeth (AM DDIM)
Ymunwch â thaith gyda thywysydd drwy’r coetir ar hyd Llwybr Chwarel CAT i ddarganfod anifeiliaid a phlanhigion y safle unigryw hwn ac i fwynhau golygfeydd ysblennydd ar draws Dyffryn Dyfi ac Eryri.
Ar un adeg roedd y cynefinoedd amrywiol naturiol ac a reolir yn CAT sydd bellach yn hafan gyfoethog i fywyd gwyllt yn chwarel lechi ddiffaith.
Mae Llwybr y Chwarel yn gymharol serth ac anwastad mewn mannau felly bydd angen lefel resymol o ffitrwydd ac argymhellir eich bod yn gwisgo esgidiau addas.
Pe bai unrhyw ofynion mynediad ar y diwrnod, bydd y tywysydd yn dewis llwybr arall, mwy gwastad drwy ganolfan ymwelwyr CAT. Gadewch i’r tywysydd wybod ar y dechrau os byddai’r llwybr hwn yn fwy addas i chi.
Gwybodaeth allweddol
- Amserau dechrau a gorffen: 11yb i 12:30yp
- Man cyfarfod: Holwch yn y dderbynfa ar y dydd
- Pris: Am ddim gyda’ch tocyn mynediad