Taith Gerdded Côr y Wig

Taith Gerdded Côr y Wig


Home » Taith Gerdded Côr y Wig

Dewch i ddathlu dychweliad ein hadar mudo gyda thaith gerdded yn y bore bach gyda thywysydd drwy gynefinoedd a choetiroedd amrywiol CAT.

Bydd nifer cyfyngedig o ysbienddrychau ar gael, ynghyd ag adnoddau adnabod adar, ond mae pob croeso i chi i ddod â’ch offer eich hun.

Cofiwch wisgo dillad sy’n addas ar gyfer pob math o dywydd i groesawu cerddorfa naturiol coetiroedd CAT yn gynnar ar fore o Fai.

Dylech aros am Barcmon Bioamrywiaeth CAT yn y swyddfa docynnau waelod am 6:30. Mi fydd y daith yn dod i ben tua 8:30.

Digwyddiad am ddim, heb angen archebu ymlaen llaw.

Gwybodaeth allweddol

  • Amserau dechrau a gorffen: 6.30yb i 8.30yp
  • Digwyddiad am ddim, heb angen archebu ymlaen llaw.