Toiledau Compost

Toiledau Compost


Home » Toiledau Compost

Canllaw i’r toiled compost i ddechreuwyr: Deall y fioleg y tu ôl i wrtaith dynol.

Ar y cwrs ymarferol hwn byddwch yn magu dealltwriaeth sylfaenol o egwyddorion, manteision a chyfyngiadau toiledau compost.

Nid cwrs adeiladu mo hwn ond yn hytrach trosolwg o’r cydrannau sydd eu hangen i gael system toiled compost i weithio, y fioleg compostio fydd yn sicrhau’r canlyniadau gorau, a’r tueddiadau diwylliannol sy’n creu ein hagweddau tuag at doiledau.

Gwybodaeth Allweddol

  • Hyd: 1 diwrnod
  • Amser: Rhwng 10am a 4.30pm
  • Cost: £125
  • Yn cynnwys: hyfforddiant a chinio.
  • Telerau ac Amodau: Rhaid bod yn 18 neu’n hŷn adeg dechrau’r cwrs.
  • Beth sydd ei angen arnoch: rydym yn eich cynghori’n gryf i ddod â dillad glaw gyda chi.

Telerau ac Amodau:

Yr hyn y byddwch chi’n ei ddysgu

Byddwn yn archwilio’r gwahanol doiledau compost sydd ar gael, o systemau parod fel ‘bucket and chuck it’ i systemau mwy soffistigedig, yn ogystal ag effeithiau gwahanu troeth a chynllun y siambr ar ansawdd a maint yr allbwn.

Byddwch hefyd yn dysgu am ofynion caniatâd cynllunio, rheoli dŵr llwyd, diogelwch, hylendid ac yn trafod y ffactor ‘ych a fi’.

Mae’r cwrs yn addas i unrhyw un sydd â diddordeb ymarferol yn y toiled compost fel technoleg cynhyrchu pridd heb ddŵr. Byddwch yn gadael yn gwybod sut i greu amwynderau cyhoeddus neu breifat sy’n gosteffeithiol ac yn hawdd eu cynnal a chadw mewn lleoliadau anghysbell neu le nad oes dewis arall ar gael.

Proffil y tiwtor

Mae Fin wedi graddio gyda BSc mewn Bioleg Forol a MSc mewn Ecoleg Ddynol. Mae wedi bod yn gweithio ar adnoddau dŵr a gwasanaethau ecosystemau yn CYDA ers 2011, yn addysgu ac yn datblygu cyrsiau byr, darlithoedd, teithiau a gweithdai sy’n annog pobl i gymryd rhan mewn ymholiad beirniadol o gysylltiadau dynol – gwastraff – lle.

Y tu hwnt i CYDA, mae Fin yn hwyluso cyd-ddylunio a gosod systemau glanweithdra isel eu heffaith ar gyfer cartrefi sydd ddim ar y grid, rhandiroedd, gwyliau a meysydd gwersylla yng Nghymru, yr Alban ac Ewrop. Yn fwyaf diweddar mae wedi cydweithio â Phytology, Bethnal Green ar doiled compostio hygyrch ar gyfer gwarchodfa natur; ar brosiect ymchwil Ysgol Bartlett UCL o’r enw “Pee and Poo for Food”, yn edrych ar rwystrau i gynhyrchu trefol a’r defnydd o wastraff dynol fel gwrtaith; gyda Global Gardens yng Nghaerdydd ar doiled compostio ar gyfer eu rhandir; a gyda The Clearing yn Compton Verney ar brosiect celf wedi’i leoli mewn sefyllfa o ddygymod â chwâl yr hinsawdd, gyda gweithdai ar Yfed y Dŵr a Chreu Toiled.

Searching Availability...

Searching Availability...